Mae trosedd casineb yn weithred o drais, gelyniaeth neu wahaniaethu yn erbyn unigolyn ar sail eu hunaniaeth neu wahaniaeth canfyddedig.

Os byddwch chi’n dioddef trosedd casineb, os byddwch chi’n gweld un yn digwydd, neu os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi dioddef hyn, dywedwch rhywbeth.

Cysylltwch â’r heddlu

Mewn argyfwng, ffoniwch 999. I riportio trosedd neu ddigwyddiad nad yw’n digwydd bellach, ffoniwch 101. Gallwch hefyd ymweld â’ch gorsaf heddlu leol, neu siarad â’ch Swyddog Heddlu cymunedol neu Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO). 

Cymorth i Ddioddefwyr

Rydym yn deall y gall fod yn anodd mynd at yr heddlu am drosedd casineb weithiau. Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen annibynnol sydd wedi ymroi i gefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan drosedd a digwyddiadau trawmatig yng Nghymru a Lloegr.

Ffoniwch Dîm Gofal Dioddefwyr Lleol Gogledd Cymru (Rhadffôn 8am-8pm Llun-Gwen, 9am-5pm Sad) ar 0300 30 30 159.

Gallwch hefyd ffonio Llinell Gymorth Cymorth i Ddioddefwyr (Rhadffôn 24/7) ar 0300 3031 982 neu defnyddiwch y ffurflen i riportio ar-lein.

Dolenni perthnasol