Er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio tuag at Fwrdeistref Sirol mwy teg, ac o ystyried ein dyletswyddau i sicrhau fod pawb yn cael eu trin yn gyfartal, bob pedair mlynedd rydym yn adnabod set o ganlyniadau cydraddoldeb yr ydym eisiau gweithio tuag atynt. Mae’r rhain wedi’u sefydlu o fewn ein canlyniadau blaenoriaeth Cynllun y Cyngor.

Mae bob canlyniad yn gysylltiedig ag o leiaf un o’r nodweddion gwarchodedig; fel y diffinir gan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (dolen gyswllt allanol). Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi eglurhad o bob nodwedd warchodedig:

Ein canlyniadau cydraddoldeb a’u nodweddion gwarchodedig cysylltiedig a Blaenoriaeth y Cyngor
Canlyniad cydraddoldebPa nodweddion gwarchodedig?Pa Flaenoriaeth y Cyngor?
Mae’r Cyngor yn ‘gyflogwr o ddewis’ sy’n gallu recriwtio a chadw gweithlu amrywiol a chynaliadwy, a gefnogir gan amgylcheddau gweithio gwell a chyfleoedd gweithio’n hyblyg. Byddwn yn adnabod ac ymdrin ag unrhyw fwlch cyflog rhwng y rhywiau.
  • oedran
  • anabledd
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • tueddfryd rhywiol
Sicrhau Cyngor Modern a Chadarn
Mae ein cwsmeriaid yn gallu cysylltu â ni’n hawdd, trwy systemau digidol sydd wedi’u hadeiladu i amgylch eu hanghenion. Mae ein gwasanaethau yn gynhwysol ac rydym yn sicrhau ein bod yn cefnogi’r cwsmeriaid hynny a hoffai ddefnyddio ein gwasanaethau digidol, yn ogystal â pharhau i gynnig ffyrdd mwy traddodiadol o gysylltu â ni, ar gyfer y rhai sydd ei angen.
  • oedran
  • anabledd
  • hil
Sicrhau Cyngor Modern a Chadarn
Mae’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn ffynnu o fewn ein gweithlu a’n cymunedau ac yn cael eu hyrwyddo a’u cefnogi.  
  • hil
Sicrhau Cyngor Modern a Chadarn
Mae Wrecsam yn lle y mae pawb yn gwybod y gallant gymryd rhan i ddylanwadu ar gynllunio a darparu gwasanaethau.  Pobl yn teimlo’r ymgysylltiad a bod y cyngor yn ymgynghori â nhw ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt, a ble bo'n bosib ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gynllunio a darparu gwasanaethau; a gwneud i bethau ddigwydd gyda’n gilydd.
  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • tueddfryd rhywiol
Sicrhau Cyngor Modern a Chadarn
Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camfanteisio, trais a holl ffurfiau o gamdriniaeth, trwy weithio mewn partneriaeth i gynyddu ymwybyddiaeth o ddioddefwyr camfanteisio a’r llwybrau adrodd sydd ar gael.
  • oedran
  • anabledd
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • tueddfryd rhywiol
Sicrhau bod Wrecsam yn Lle Teg a Diogel
Mae ein cymunedau yn groesawgar, rydym yn hyrwyddo ac yn dathlu amrywiaeth a diwylliannau ein cymunedau ac yn sicrhau mynediad priodol at bob gwasanaeth i bawb. 
  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • tueddfryd rhywiol
Sicrhau bod Wrecsam yn Lle Teg a Diogel
Mae pobl sy’n chwilio am loches rhag rhyfel neu argyfwng dyngarol yn cael eu cefnogi i adeiladu dyfodol cynaliadwy yn y Fwrdeistref Sirol.
  • hil
  • crefydd neu gred
Sicrhau bod Wrecsam yn Lle Teg a Diogel
Caiff holl ddysgwyr gael eu cefnogi i wella eu canlyniadau addysgol, a bydd anghydraddoldebau mewn canlyniadau rhwng gwahanol grwpiau o ddysgu yn cael eu lleihau.
  • oedran
  • anabledd
  • hil
  • rhyw
Gwella Addysg a Dysgu
Mae ein dysgwyr yn cael profiad dysgu cadarnhaol trwy fynediad at amgylchedd sy’n hygyrch ac yn addas i’r diben ac yn caniatáu dewis rhwng addysg cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.
  • anabledd
  • hil
Gwella Addysg a Dysgu
Mae plant ac oedolion yn cael eu cefnogi i gael iechyd meddwl a lles da, trwy bartneriaethau gwasanaethau cyhoeddus  a chymunedau yn cydweithio. Mae canolbwynt ar gymorth iechyd meddwl a ddarperir drwy wasanaethau iechyd meddwl atal a chymorth cynnar er mwyn lleihau’r galw am wasanaethau yn hwyrach ymlaen. 
  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • tueddfryd rhywiol
  • beichiogrwydd a mamolaeth
Hybu Iechyd a Lles (gan ganolbwyntio ar wasanaethau cymdeithasol ac iechyd meddwl da)
Rydym yn sicrhau bod ein gwasanaethau gofal cymdeithasol yn diwallu anghenion y rhai sy’n eu defnyddio drwy wrando ar yr hyn y mae plant, oedolion, teuluoedd a gofalwyr yn ei ddweud wrthym. 
  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • tueddfryd rhywiol
Hybu Iechyd a Lles (gan ganolbwyntio ar wasanaethau cymdeithasol ac iechyd meddwl da)

I gael mwy o fanylion am ein camau gweithredu/mesurau ewch i’n tudalen Cynllun y Cyngor.

Gallwch hefyd wybod sut rydym yn datblygu ein canlyniadau cydraddoldeb ar ein Tudalen Fframwaith Rheoli Perfformiad.

Pwy sy’n gyfrifol am y canlyniadau cydraddoldeb strategol?

  • Y Prif Weithredwr a'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth sy’n gyfrifol am gyflwyno'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol
  • Aelodau Etholedig sy’n gyfrifol am oruchwylio'r broses o gyflawni'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a sicrhau bod effeithiau ar gydraddoldeb yn cael sylw priodol wrth wneud penderfyniadau am fusnes y Cyngor.
  • Mae’r Aelod Arweiniol y mae ei bortffolio yn cynnwys cydraddoldeb yn rhoi cymorth cyffredinol i ddatblygu a chyflawni'r cynllun.

Sut rydym wedi datblygu ein canlyniadau cydraddoldeb