Mae Cynllun y Cyngor yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae'n nodi'r hyn y byddwn yn gweithio tuag ato yn y tymor canolig (wrth ystyried ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol hirdymor Bwrdeistref Sirol Wrecsam). 

O fewn y meysydd blaenoriaeth, rydym wedi nodi 6 i 8 o ganlyniadau rydym eisiau gweithio tuag atynt. Mae’r canlyniadau yn nodi’r cyfeiriad ar gyfer ein siwrnai tuag at welliant ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam, pobl Wrecsam a’n cymunedau. 

Sut datblygwyd y cynllun

Datblygwyd y cynllun yn ystod 2022/23, drwy:

  • Drafod gyda’r bobl sy’n darparu ein gwasanaethau.
  • Gweithdai gydag aelodau ein cyngor i ystyried y canlyniadau arfaethedig yn seiliedig ar eu gwybodaeth am y bobl sy'n byw yn eu wardiau.
  • Ymgynghoriad cyhoeddus gyda phobl ar draws Wrecsam; gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig. 

Hefyd edrychom ar ystod o dystiolaeth gan gynnwys:

  • Data ac ystadegau cyhoeddedig (er enghraifft, data Cyfrifiad 2021).
  • Yr hyn a wyddom am ein cymunedau o ymchwil lleol am iechyd a lles pobl.
  • Negeseuon ac adborth o weithgareddau cyfranogi yr ydym wedi eu cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf (gyda defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau)
  • Cynnydd yn erbyn blaenoriaethau presennol ein cyngor a meysydd gwaith eraill.

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC)

Ar y cyd â’r dystiolaeth a grybwyllwyd uchod, mae blaenoriaethau ein cyngor wedi cael eu hysbysu gan Asesiad Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam. Cafodd yr asesiad ei gynhyrchu yn dilyn ymchwil ac ymgysylltiad eang gyda phobl ar draws Wrecsam. 

Helpodd y gwaith a wnaed gan y BGC i amlygu meysydd ffocws allweddol i ni eu hystyried wrth ddewis blaenoriaethau ein cyngor. Yna fe wnaethom ddatblygu’r blaenoriaethau ochr yn ochr â Chynllun Lles y BGC a’r amcanion. Mae’r Cynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ceisio gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ar draws Sir y Fflint a Wrecsam.

Datblygu ein canlyniadau cydraddoldeb

Yn ystod 2022 fe wnaethom gynnal llawer o ymchwil, adolygu ein hamcanion cydraddoldeb blaenorol ac ystyried data a thystiolaeth (o adroddiadau cenedlaethol, gwybodaeth Gogledd Cymru a gwybodaeth leol). Roedd y dadansoddiad hwn yn awgrymu nifer o feysydd y gall ein canlyniadau ganolbwyntio arnynt. 

Roedd y camau a gymerwyd gennym i’n helpu i benderfynu ar ein hamcanion cydraddoldeb arfaethedig yn cynnwys:

  • Adolygiad o'n hamcanion cydraddoldeb strategol blaenorol.
  • Adolygiad o ymchwil a data gan gynnwys y cyfrifiad, data cydraddoldeb cynghorau, asesiad Lles y BGC, strategaethau/adolygiadau cenedlaethol, yn ogystal â data lleol a chenedlaethol.
  • Adborth gan swyddogion drwy ein Byrddau Blaenoriaeth presennol (mae mwy o wybodaeth am Fyrddau Blaenoriaeth ar ein tudalen Fframwaith Rheoli Perfformiad).
  • Gweithdai aelodau i gasglu adborth yn seiliedig ar eu gwybodaeth am bobl sy'n byw yn eu wardiau. 

Ymgynghoriad

Gwnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2023 i gael adborth ar ein blaenoriaethau a chanlyniadau arfaethedig ar gyfer y cyngor. 

Gofynnwyd ai'r blaenoriaethau a'r canlyniadau a nodwyd gennym yn ein Cynllun Cyngor drafft oedd y meysydd cywir i ganolbwyntio arnynt ac a oedd unrhyw bethau eraill y dylem eu cynnwys. 

I wirio a oedd ein hamcanion cydraddoldeb arfaethedig yn seiliedig ar faterion perthnasol yr oedd pobl yn meddwl bod angen mynd i'r afael â hwy, buom yn siarad â grwpiau cynrychioliadol o'r rhai â nodweddion gwarchodedig (fel y'u diffinnir o dan y Ddeddf Cydraddoldeb). 

Gwnaethom hefyd ofyn pa gamau y gallem eu cymryd ac a oedd unrhyw faterion eraill y dylem ganolbwyntio arnynt. Fel rhan o'n hymgynghoriad, gwnaethom ofyn am adborth gan grwpiau cynrychioliadol ac unigolion o fewn cymunedau a grwpiau ffocws penodol.

Roedd y dulliau ymgynghori yn cynnwys:

  • Arolwg ar-lein ar lwyfan ‘Eich Llais’.
  • Arolwg wedi’i argraffu ar gael i’r rhai nad oedd yn gallu ymgysylltu’n ddigidol.
  • Ymgysylltiad gyda grwpiau cymunedol fel rhan o’u cyfarfodydd rheolaidd (er enghraifft Canolfannau Clyd a grwpiau cefnogi pobl eraill gydag anghenion gwahanol).
  • Grŵp ffocws a gynhaliwyd gyda Senedd yr Ifanc Wrecsam.
  • Ymgysylltu mewn digwyddiadau cymunedol, gyda chynghorau cymuned, ein gweithlu ein hunain a chynrychiolwyr undebau llafur. 

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein hadroddiad ymgynghori llawn.