Mae rôl y Prif Weithredwr yn swydd llawn amser gydag oriau hyblyg all fod y tu allan i oriau gwaith arferol. Mae’r hyblygrwydd yn galluogi’r deiliad swydd i gyflawni eu cyfrifoldebau a’u hatebolrwyddau ar gyfer y rôl.

Mae’r rôl hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb statudol Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig sydd wedi’i nodi yn y ddeddfwriaeth llywodraeth leol. 

Dibenion allweddol y swydd

  • I weithio gydag aelodau i ddatblygu a chyfathrebu gweledigaeth, cyfeiriad strategol, blaenoriaeth ac amcanion y cyngor a goruchwylio cyrhaeddiad y rhain mewn realiti, gan gymryd cyfrifoldeb am berfformiad corfforaethol yn gyffredinol.
  • I wneud yn siŵr fod y cyngor gyda strwythur a rheolaeth briodol a bod adnoddau yn cael eu cyfeirio fel bod modd cyflawni blaenoriaethau ac amcanion corfforaethol. 
  • I arwain, datblygu a herio’r Tîm Arweinyddiaeth Uwch i wneud yn siŵr fod safon gwasanaethau a rheoli’r cyngor yn cael eu cynnal a’u datblygu ac yn canolbwyntio ar y cwsmer         
  • I ddeall, datblygu a rheoli partneriaethau cymhleth yn cynnwys asiantaethau sector cyhoeddus eraill, y Senedd, grwpiau busnes a chymuned a grwpiau gwirfoddol i symud datblygiad ymlaen i Wrecsam a gwella ansawdd bywyd i’w breswylwyr
  • I oruchwylio rheoli ariannol a pherfformiad, rheoli risg, rheoli pobl a rheoli newid o fewn y cyngor 
  • I ymgymryd â dyletswyddau statudol fel Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig yr awdurdod ac ymarfer yr awdurdodau wedi’u dirprwyo i rôl y Prif Weithredwr yn unol â Chyfansoddiad yn cyngor

 

Y Cyngor

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw’r cyflogwr mwyaf yn Wrecsam. Cyfanswm gwariant gros y cyngor ar gyfer 2021/22 yw £415 miliwn a’r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/22 yw £82 miliwn.  Ar hyn o bryd mae gweithlu o 5,400 o weithwyr y cyngor. 

Tâl

Mae ystod cyflog ar gyfer y swydd Prif Weithredwr wedi’i nodi yn y datganiad ar bolisïau tâl sy’n cael ei baratoi a’i gyhoeddi yn flynyddol. Mae gan ddeiliad y swydd hawl i 35 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn. 

Gall y Prif Weithredwr fod yn Swyddog Canlyniadau hefyd ar gyfer Wrecsam a De Clwyd. Y Swyddog Canlyniadau yw’r unigolyn sy’n gyfrifol am gynnal etholiadau. Mae’r Swyddog Canlyniadau yn swyddog cyngor a benodir o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl.

 
Er iddo gael ei benodi gan y cyngor, mae rôl y Swyddog Canlyniadau yn wahanol ac ar wahân i'w ddyletswyddau fel un o weithwyr y cyngor. Mae'r ffioedd sy'n daladwy yn y rôl hon yn amrywiol ac wedi'u rhagnodi'n bennaf gan lywodraeth ganolog.

Pensiwn

Mae’r Prif Weithredwr, fel gyda holl weithwyr eraill llywodraeth leol, yn cael ei cofrestru yn awtomatig i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Dyma’r cynllun pensiwn sefydledig ar gyfer gweithwyr llywodraeth leol. Dewis yr unigolyn yw optio allan neu aros yn y cynllun. 

Treuliau

Gwneir ad-daliad treuliau gan y Prif Weithredwr, fel gyda holl weithwyr eraill y cyngor, yn unol â chanllawiau corfforaethol llym (gwybodaeth bellach ar gael yn y datganiad ar bolisïau tâl).

Cysylltu â’r Prif Weithredwr 

E-bost: chiefexecutive@wrexham.gov.uk

Y Prif Weithredwr
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY