Image
Siart cylch yn dangos cyllid refeniw 2023/24 o £406,843,149 wedi’i rannu’n dri maes ariannu: a) Ffioedd, taliadau a grantiau, sy’n 26% b) Cyllid Llywodraeth Cymru, sy’n 55% c) Treth y Cyngor, sy’n 19%

Mae blaenoriaethau’r cyngor yr ydym wedi cytuno arnynt yn uchelgeisiol felly bydd yr adnoddau ariannol sy’n ofynnol wedi’u hadlewyrchu yn y cyllidebau a osodir ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Bydd blaenoriaethau’r cyngor yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau am ddyrannu adnoddau yn y dyfodol. Mae Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor yn nodi’r dull o reoli ein cyllidebau yn ogystal â’r materion eang a fydd yn effeithio ar ein sefyllfa ariannol dros y tymor canolig; mae’n darparu manylion ar y refeniw a’r adnoddau a fydd ar gael ar gyfer ein meysydd blaenoriaeth a’r gwasanaethau sy’n cefnogi’r rhain. Mae rheolaeth ein hadnoddau a’n hasedau yn cael ei lywio gan Gynllun y Cyngor a darpariaeth ein gweledigaeth. 

Mae’n bwysig nodi bod rhai o’r gweithgareddau rydym wedi’u nodi sy’n tanategu ein canlyniadau, wedi’u hariannu gan grant neu eisoes ag adnoddau wedi’u dyrannu yn eu proses cynllunio cynnar. 

Mae Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 15 Chwefror 2023 yn amlygu diffyg posibl mewn refeniw o tua £9.5 miliwn ar gyfer y cyfnod 2024/25 - 2025/26. Fodd bynnag mae’r cynnydd mawr mewn prisiau, cyflogau a’r galw am wasanaethau wedi creu pwysau costau ychwanegol y bydd yn rhaid ei ystyried ac a fydd yn cael ei adlewyrchu mewn Cynllun Ariannol Tymor Canolig diweddaredig, lle mae maint y diffyg mewn refeniw yn debygol o fod yn fwy arwyddocaol. Yn wir mae’n debygol y bydd maint y pwysau costau yn llawer mwy nag yn unrhyw gyfnod arall dros y ddegawd ddiwethaf. Hyd yn oed ar adegau anodd iawn, mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i flaenoriaethu buddsoddiad ar y mannau lle mae ei angen fwyaf.  Mae cyllideb 2023/24 yn cydnabod pwysau’r galw ym maes Gofal Cymdeithasol a chynnydd costau chwyddiannol yn cynnwys cyflogau ac ynni i holl wasanaethau’r cyngor, yn cynnwys ysgolion, a bydd cyllidebau yn parhau i gynnal blaenoriaethau’r Cyngor wrth i ni symud ymlaen, hyd yn oed mewn cyfnod ariannol heriol.  

Yn 2023/24 mae cyllid ychwanegol penodol hefyd wedi’i ddarparu i’w fuddsoddi ym mlaenoriaethu Cynllun y Cyngor, cynnal a chadw ac ail-wynebu priffyrdd ynghyd â chludiant cyhoeddus (gwasanaethau bws).

Ewch i’n tudalen dogfennau ariannol i weld ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig a dogfennau ariannol eraill.