Ydych chi wedi ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i’ch plentyn?

Nid oes raid i chi fod yn siarad Cymraeg i’ch plentyn elwa o addysg cyfrwng Cymraeg. Pa bynnag iaith yr ydych yn ei siarad gartref, gall anfon eich plentyn i ysgol gyfrwng Cymraeg roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i’ch plentyn. 

Mae dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn rhoi’r cyfle i’ch plentyn ehangu ei sgiliau dwyieithog yn greadigol ac yn academaidd. 

Mae manteision ehangach i addysg ddwyieithog hefyd gan gynnwys effaith gadarnhaol ar alluoedd gwybyddol plentyn, ac mae’r buddion hyn yn bodoli am oes.

Manteision o addysg ddwyieithog Cymraeg/Saesneg

  • Mae meddu ar y gallu i siarad Cymraeg naill ai’n sgil hanfodol neu ddymunol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi.
  • Gallu defnyddio gwybodaeth mewn o leiaf dwy iaith - mae ymchwil yn dangos fod plant sy’n gallu deall dwy iaith yn meddwl yn fwy hyblyg a chreadigol. 
  • Cynyddu gallu’r plentyn i ddysgu iaith arall.
  • Cynnig cyfleoedd i brofi dau ddiwylliant (er enghraifft llenyddiaeth, cerddoriaeth a chyfryngau digidol) a fyddai fel arall ddim ar gael iddyn nhw. 
  • Gall siarad Cymraeg helpu i feithrin dealltwriaeth lawn o gymuned ehangach person a’i le ynddi.
  • Gall helpu gyda phontio rhwng cenedlaethau os yw neiniau a theidiau neu aelodau o'r teulu yn fwy cyfforddus mewn un iaith.

Cynigion Cymraeg i deuluoedd cyn-ysgol

Cymraeg i Blant

Gweithgareddau am ddim i rieni newydd yn defnyddio Saesneg a chyflwyno Cymraeg. 

Ti a Fi 

Mae ‘Mudiad Meithrin’ yn cynnal sesiynau rhieni a phlant bach ar draws Cymru. Gallwch chwilio am eich grŵp ‘Ti a Fi’ agosaf ar eu gwefan (gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis yr opsiwn ‘Cylch Ti a Fi’ ar gyfer y ‘Math o Gylch’):

Cylch Meithrin 

Sesiynau 2-2½ awr. Addas i blant o 2 oed i oedran ysgol. Mae rhai grwpiau’n darparu llefydd addysg gynnar wedi’i ariannu a gwasanaethau gofal estynedig. 

Meithrinfa Dydd / Gwarchodwr Plant

Gofynnwch i’ch meithrinfa leol am sut y maen nhw’n defnyddio Cymraeg mewn gweithgareddau o ddydd i ddydd, gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam am fwy o wybodaeth.

Sesiynau stori a chân yn y Gymraeg

Cynhelir y sesiynau hyn mewn llyfrgelloedd ar draws sir Wrecsam - cysylltwch â’ch llyfrgell leol am fwy o wybodaeth.

Mwy o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar sut i wneud cais am le mewn ysgol ar wahanol gyfnodau ar y prif dudalen we derbyniadau ysgol

Hwyrddyfodiaid i’r Gymraeg

Gall plant gael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg fel hwyrddyfodiaid hyd at Flwyddyn 8 mewn ysgol uwchradd. I ddarganfod mwy am ein cefnogaeth gyda’r cynllun trochi hwyrddyfodiaid i’r Gymraeg.