Mae naw o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam ac un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg.

Os ydych eisiau darganfod mwy am eich ysgol Gymraeg lleol gallwch gysylltu â nhw ac mi fyddan nhw’n hapus i’ch gwahodd am sgwrs a thaith o amgylch yr ysgol.  

Cynradd

Uwchradd

Sut y caiff Cymraeg ei dysgu mewn ysgol cyfrwng Cymraeg?

Pan fydd plant yn dechrau dysgu Cymraeg mi fyddan nhw’n cael eu trochi yn yr iaith o’r dechrau un. Mi fyddan nhw’n dysgu cyfarwyddiadau a brawddegau sylfaenol trwy gefnogaeth weledol, caneuon a gweithredoedd.  

Cymraeg yw’r iaith addysg o’r dosbarth meithrin i flwyddyn 2 ac yna bydd plant yn cael gwersi yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan ddefnyddio’r ddwy iaith yn eu gwersi ar draws y cwricwlwm. Dyma ddull sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ar gyfer dysgu ieithoedd ac mi fydd yn helpu eich plentyn i fod yn fedrus ac yn rhugl yn y ddwy iaith. 

Beth os nad ydym yn siarad Cymraeg fel teulu?

Mae’r rhan fwyaf o blant yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam yn dod o gartrefi sydd ddim yn siarad Cymraeg. Mae’r ysgolion a’r gwasanaethau cefnogi wedi arfer cefnogi plant/teuluoedd o gartrefi sydd ddim yn siarad Cymraeg. 

Er ein bod yn eich annog i gymryd diddordeb yn siwrnai eich plentyn a gallwn eich cynghori ynglŷn â chyrsiau sy’n cael eu cynnal yn lleol, nid oes disgwyliad arnoch chi i ddysgu Cymraeg. 

Mae’r holl ohebiaeth o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cael ei anfon yn ddwyieithog a byddwn yn dysgu pob plentyn i ddod yn gwbl ddwyieithog.

Mae digwyddiadau a gynhelir yn yr ysgol yn cael eu cyflwyno’n ddwyieithog ac mae cymuned cyfrwng Cymraeg yr ysgol yn ymfalchïo o fod yn rhan gynhwysol a chefnogol o’r gymuned leol. 

Gallwch hefyd gefnogi eich plentyn a dysgu dipyn bach o’r iaith ar yr un pryd drwy:

  • ymweld â’r llyfrgell leol i gael llyfrau Cymraeg
  • rhoi Radio Cymru ymlaen neu wylio ychydig o S4C gyda’ch gilydd (gydag isdeitlau)
  • annog eich plentyn i ddefnyddio eu Cymraeg os byddwch yn dod ar draws person sy’n siaradwr Cymraeg ac i gymryd diddordeb yn yr hyn y maen nhw’n ei ddysgu

Mwy o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar sut i wneud cais am le mewn ysgol ar wahanol gyfnodau ar y prif dudalen we derbyniadau ysgol

Hwyrddyfodiaid i’r Gymraeg

Gall plant gael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg fel hwyrddyfodiaid hyd at Flwyddyn 8 mewn ysgol uwchradd. I ddarganfod mwy am ein cefnogaeth gyda’r cynllun trochi hwyrddyfodiaid i’r Gymraeg.