Rydym yn darparu gwasanaeth sy’n cefnogi hwyrddyfodiaid i’r Gymraeg sy’n dechrau mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.  

Mae’r gefnogaeth yn dechrau cyn gynted ag y bydd eich plentyn yn cael eu trosglwyddo i ysgol cyfrwng Cymraeg yn sir Wrecsam. Byddai eich plentyn yn derbyn cefnogaeth nes eu bod wedi cyrraedd lefel o ddysgu yn unol â’u cyfoedion. 

Mae plant yn eithriadol o lwyddiannus mewn trochi eu hunain ac mewn dysgu ieithoedd newydd. Ar ôl y cyfnod pontio, mae’r rhan fwyaf o blant yn parhau yn eu lleoliadau cyfrwng Cymraeg. 

Cynigir llawer iawn o gefnogaeth i’r plentyn a’r teulu er mwyn gwneud yn siŵr fod y cyfnod pontio yn gweithio i bawb.

Hwyrddyfodiaid i Addysg Gynradd 

Rydym yn croesawu ac yn cefnogi unrhyw blentyn sy’n dymuno trosglwyddo i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg. Mae ein pecyn cefnogi yn cynnwys:

  • Cymorth Estyn Allan i Hwyrddyfodiaid i’r Gymraeg yn yr ysgol nes bod eich plentyn wedi cyrraedd lefel ddigonol o ddysgu.
  • Pecyn cefnogi i’r athrawon a staff cefnogi. 
  • Y dewis i’ch plentyn fynychu ein Canolfan Iaith, ‘Cynefin’ - i drochi eu hunain yn ddwys gyda’n tîm o swyddogion trochi profiadol cyn dychwelyd i’r ysgol a pharhau gyda chefnogaeth estyn allan.
  • Pecyn cefnogi i rieni / teuluoedd a chyfle i gwrdd ag aelod o dîm Trochi’r Gymraeg i drafod y gefnogaeth yr ydym yn ei gynnig a’r hyn y gallwch chithau  ei wneud hefyd i gefnogi eich plentyn.

Pa mor hir fydd fy mhlentyn yn cael eu cefnogi gan dîm Trochi’r Gymraeg?

Bydd pob plentyn yn cael eu cefnogi am gyfnodau o amser amrywiol yn dibynnu ar eu hoedran, ymrwymiad a llawer o ffactorau eraill.  Byddwn yn parhau i gefnogi’r plentyn nes bod y plentyn ddim ein hangen rhagor.

Bydd eich plentyn yn cael eu cefnogi nes eu bod wedi cyrraedd lefel dda o Gymraeg (tebyg i’w cyfoedion) ac yn hyderus yng ngallu eu hunain.

Beth os byddaf yn penderfynu symud fy mhlentyn ond eu bod nhw’n ei chael yn anodd dysgu’r iaith?

Mae gennym ganolfan iaith Gymraeg o’r enw ‘Cynefin’, sy’n cael ei gefnogi gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ganolfan yn rhedeg cyrsiau sy’n helpu plant gyda’u siwrnai dysgu iaith.

Mae cyrsiau wedi cael eu dylunio’n arbennig i gefnogi gwahanol agweddau o ddysgu iaith. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â pha gwrs fyddai fwyaf defnyddiol i’ch plentyn cysylltwch â’ch ysgol (edrychwch ar ein rhestr o ysgolion) neu anfonwch e-bost atom trochi@wrecsam.gov.uk.

Trochi yn y Gymraeg ar gyfer addysg uwchradd

Mae’r cynllun trochi yn y Gymraeg yn galluogi disgyblion i bontio o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg i Ysgol Morgan Llwyd; er mwyn cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg. 

Dylech ystyried os byddai’n elwa eich plentyn, hwyrach ymlaen mewn bywyd, i fod yn rhugl mewn dwy iaith (gallwch ddarganfod rhai o’r manteision ar y brif dudalen addysg cyfrwng Cymraeg). Mae nifer o ddisgyblion yn trosglwyddo bob blwyddyn i Ysgol Morgan Llwyd o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg, ac maen nhw’n addasu'n dda iawn i addysg cyfrwng Cymraeg.

Ar hyn o bryd mae disgyblion blwyddyn 6 sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg yn gallu cael mynediad i gefnogaeth trwy’r cynllun pontio sy’n cael ei redeg yn Ysgol Morgan Llwyd.  Mae disgyblion sy’n cael eu trochi yn cael eu cefnogi nes eu bod nhw’n rhugl ac ar yr un lefel â’u cyfoedion ac yna’n ymuno â dosbarthiadau prif ffrwd ar ddechrau Blwyddyn 9.  

Sut y mae’r cynllun trochi yn gweithio

Cyn mynychu Ysgol Morgan Llwyd yn llawn ym mis Medi bydd disgyblion yn cael y cyfle i dderbyn cefnogaeth gan ein tîm estyn allan i hwyrddyfodiaid yn ystod tymor olaf y gwanwyn o fewn eu hysgolion cynradd.  Yna, yn dilyn hanner tymor mis Mai mi fyddan nhw’n dechrau cwrs blasu trochi yn y Gymraeg am chwe wythnos yn Ysgol Morgan Llwyd.   

Mae’r cwrs yn rhoi pwyslais ar ddysgu trwy amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl. Rydym yn cyflwyno’r iaith Gymraeg mewn nifer o ffyrdd, sy’n gallu cynnwys:

  • gemau / gweithgareddau llawn hwyl
  • creu podlediadau
  • cyfansoddi
  • kung fu
  • garddio
  • coginio
  • prosiectau gohebiaeth
  • teithiau rheolaidd i ymarfer sgiliau iaith Gymraeg y tu allan i leoliad ysgol

Mae’r cwrs yn cael ei ddatblygu o amgylch syniadau gan ddisgyblion ac mae lles plant yn ganolog i bob agwedd o’r cwrs. Mae ein grwpiau trochi bychan o ran niferoedd yn gallu cefnogi pob plentyn i fod yn ddysgwyr hapus, hyderus ac effeithiol.  

Rydym yn cadw mewn cysylltiad ac yn cwrdd yn rheolaidd â rhieni / gwarcheidwaid - felly byddech yn chwarae rhan weithgar yng nghynnydd eich plentyn ac yn cael eich diweddaru’n rheolaidd ar eu cynnydd.

Mwy o wybodaeth

A fydd fy mhlentyn yn treulio amser gyda’u cyfoedion prif ffrwd?

Bydd eich plentyn yn treulio oddeutu 65% o’u hamser yn yr uned trochi yn y Gymraeg gyda’r myfyrwyr trochi yn y Gymraeg eraill ac yna gweddill yr amser yn mynychu rhai pynciau yn y brif ysgol gyda chyfoedion trochi a rhai mewn dosbarthiadau cymysg gyda disgyblion prif ffrwd.

Beth sy’n digwydd os na fydd fy mhlentyn yn mwynhau’r cwrs trochi?

Rydym yn gobeithio fod pob plentyn yn mwynhau’r profiad, fodd bynnag mae’r cyfnod blasu ym Mlwyddyn 6 yn gyfle da i’ch plentyn i brofi’r hyn sydd gennym i’w gynnig. Mi fyddan nhw’n gallu penderfynu os ydyn nhw eisiau parhau i Flwyddyn 7 neu beidio.

A fydd fy mhlentyn yn methu allan ar weithgareddau disgyblion sy’n gadael Blwyddyn 6 tra ar y cwrs Cymraeg?

Rydym yn hapus i blant ddychwelyd i’w hysgol gynradd ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau gadael / gweithgareddau diwrnod chwaraeon / teithiau diwedd tymor, ond gofynnwn yn garedig i chi adael i ni wybod am unrhyw ddyddiadau lle na fydd eich plentyn yn mynychu’r cwrs.