Gwneud cais am Addysg Gynnar wedi’i Hariannu
Gallai plant sy’n byw yn Wrecsam fod yn gymwys i gael 10 awr o Addysg Gynnar wedi’i Hariannu, gan ddibynnu ar ba bryd y cânt eu pen-blwydd. I blant sy’n cael eu pen-blwydd yn dair oed rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr, darperir lleoedd wedi’u hariannu yn nhymhorau’r Gwanwyn a’r Haf. I blant sy’n cael eu pen-blwydd yn dair oed rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth, darperir lleoedd wedi’u hariannu yn nhymor yr Haf.
Mae plant a anwyd ar 1 Ebrill neu wedi hynny’n derbyn eu haddysg yn nosbarthiadau meithrin yr ysgolion yn nhymor yr Hydref ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed.
Beth yw'r cynnig?
Gallwch gael mynediad at hyd at 30 awr yr wythnos o Addysg Gynnar wedi’i Hariannu neu Feithrinfa yn ogystal â gofal plant sydd wedi ei ariannu gan y llywodraeth wedi cyfuno am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Mae’r elfen Addysg Gynnar wedi’i Hariannu hon yn ffurfio 10 awr o'r cynnig 30 awr.
Nid yw sicrhau lle Addysg Gynnar wedi’i Hariannu yn rhoi lle meithrin awtomatig i chi mewn ysgol yn Wrecsam. Rhaid i chi wneud cais am le meithrin ar wahân.
Pryd a sut y gallai wneud cais am Addysg Gynnar wedi'i Hariannu?
I blant sy’n cael eu pen-blwydd yn dair oed rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr, darperir lleoedd wedi’u hariannu yn nhymhorau’r Gwanwyn a’r Haf. I blant sy’n cael eu pen-blwydd yn dair oed rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth, darperir lleoedd wedi’u hariannu yn nhymor yr Haf.
Os yw eich plentyn yn gymwys i gael addysg gynnar yn ystod tymor y gwanwyn a’r haf gallwch wneud cais o’r Medi 1, 2025 ymlaen ac mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud cais erbyn Hydref 24, 2025 i gael lle i'ch plentyn nhymor y gwanwyn (Ionawr) 2026.
Os yw eich plentyn chi yn gymwys ar gyfer tymor yr haf yn unig, gallwch wneud cais o Tachwedd 3, 2025 ymlaen a bydd rhaid i chi fod wedi gwneud cais erbyn Rhagfyr 19, 2025 i gael cynnig lle ar gyfer tymor yr haf (Ebrill) 2026.
Bydd y ddau dderbyniad yn parhau ar agor ond bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiadau cau uchod yn geisiadau hwyr.
Gallwch wneud cais ar-lein ar gyfer Addysg Gynnar wedi’i Hariannu. Fel arall, mae ceisiadau bapur ar gael drwy anfon ebost fundedearlyeducation@wrexham.gov.uk.
Rhowch y dechrau gorau i’ch plentyn
Yn Wrecsam rydym wedi ymrwymo i roi'r dechrau gorau posibl mewn addysg i'n plant ieuengaf. Mae Plant mewn Addysg Gynnar wedi’i Hariannu yn dysgu trwy chwarae, yn unol â’r Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin wedi’i Hariannu yng Nghymru.
Mae ymchwil yn Wrecsam wedi profi bod plant tair oed mewn Addysg Gynnar wedi’i Hariannu yn mynd ymlaen i gyflawni canlyniadau uwch, ar ddiwedd blwyddyn chwech, na’r rhai nad ydynt yn manteisio ar y cynnig.
Mae manteision Addysg Gynnar wedi’i Hariannu i’ch plentyn yn cynnwys...
- dysgu sgiliau newydd
- magu hyder
- darganfod a datrys problemau
- archwilio a defnyddio technoleg
- datblygu annibyniaeth
- datblygu creadigrwydd a dychymyg
- dysgu siarad Cymraeg
- gwneud ffrindiau
- cael llawer o hwyl dan do ac yn yr awyr agored
Sut mae'n gweithio
Gall eich plentyn gael lle mewn lleoliad wedi’i ariannu ar gyfer naill ai:
- Pum sesiwn yr wythnos, un y dydd, dwy awr o hyd, neu
- Pedair sesiwn yr wythnos, un y dydd, dwy awr a hanner o hyd.
Bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn y mae'r lleoliad cymeradwy o'ch dewis yn ei ddarparu.
Ariennir lleoliad cymeradwy i ddarparu Addysg Gynnar i blant tair oed a gall fod yn un o’r canlynol:
Lleoliad dynodedig...
- Cylch chwarae
- Meithrinfa ddydd breifat
- Dosbarth meithrin neu uned blynyddoedd cynnar mewn ysgol leol.
Ariannu Addysg Gynnar
Dim ond mewn un lleoliad y gallwch wneud cais am le wedi'i Hariannu. Telir cyllid yn uniongyrchol i'r lleoliad.
Lleoliadau sy'n derbyn cyllid...
- Rhaid cael staff â chymwysterau priodol
- Bydd yn cael ei arolygu gan ESTYN ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
- Rhaid darparu'r sesiynau a nodir
- Derbyn hyfforddiant rheolaidd