Gwneud Cais am Ofal Plant (drwy Gyngor Sir y Fflint)
Rydym yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant yn Wrecsam.
Gallwch ddarllen am y cynnig isod, ond bydd arnoch angen gwneud cais ar wefan Sir y Fflint (dolen gyswllt allanol) gallwch hefyd weld ar y wefan beth ydych chi’n gymwys i’w gael.
Os oes arnoch angen unrhyw gyngor neu help wrth gwblhau’ch cais, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r cynnig gofal plant, mae croeso ichi e-bostio fis@wrexham.gov.uk, neu alw draw i Galw Wrecsam (10:30am - 2:30pm).
Cysylltwch â Sir y Fflint os ydych chi’n cael unrhyw drafferth gyda’r cais ar-lein, i holi a dderbyniwyd eich cais, neu i gael gwybod erbyn pryd y caiff eich cais ei brosesu. Gwnewch hyn drwy e-bostio childcareofferapplications@flintshire.gov.uk, neu ffonio 01352 703930.
Mae’n rhaid bod unrhyw ddarparwr gofal plant a ddewiswch chi ar gyfer y Cynnig wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru neu Ofsted, yn ogystal â bod wedi cofrestru i ddarparu’r Cynnig.
Gall rhieni fanteisio ar y cynnig gofal plant mewn rhai lleoliadau y tu hwnt i Wrecsam.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Cynnig Gofal Plant, mae croeso ichi gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ar fis@wrexham.gov.uk.