Rydym ni’n darparu cyngor ac arweiniad i famau, tadau a gofalwyr plant a phobl ifanc o feichiogrwydd hyd at benblwydd y plentyn yn 20 oed. Rydym ni hefyd yn cynghori gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio gyda theuluoedd.
Cyngor i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol
Gallwch siarad gyda ni am bynciau yn cynnwys:
- Gofal plant a chostau gofal plant
- Cynnig Gofal Plant i Gymru
- Gweithgareddau a digwyddiadau ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol
- Ffynonellau o gefnogaeth i deuluoedd
- Cefnogaeth i Rieni
- Dyled a budd-daliadau
- Datblygiad plant, ymddygiad, cwsg ac ati
- Addysg
- Iechyd a Lles
- Cymorth perthnasoedd
- Gwasanaethau i blant anabl a phlant sydd ag anghenion ychwanegol
Cefnogaeth i rieni
Gallwn hefyd gynnig cefnogaeth i helpu:
- rhieni i dderbyn gwasanaethau y gallai fod eu hangen arnynt
- gwella hyder rhieni
- rhieni plant anabl a phlant gydag anghenion penodol i dderbyn gwasanaethau
Trwy’r Panel Seibiant Anabledd a Gofal Plant, rydym yn cefnogi teuluoedd sydd â phlant ag anableddau neu anghenion ychwanegol i:
- wella lles a gwytnwch y teulu
- galluogi rhieni i weithio
Trwy’r panel rydym hefyd yn cefnogi teuluoedd sydd â rhiant anabl neu angen ychwanegol; i ddefnyddio gofal plant a gwella lles/gwytnwch y teulu.
Cysylltu â GGiDW
E-bost: fis@wrexham.gov.uk
Rhif ffôn: 01978 292094
Os ydych chi’n poeni am blentyn, cysylltwch â gofal cymdeithasol i blant.