Rydych chi’n rhiant sy’n gofalu os ydych chi’n darparu gofal i’ch plentyn am fod angen cefnogaeth ychwanegol arnynt (oherwydd anabledd neu anghenion ychwanegol, boed nhw wedi cael diagnosis neu beidio).

Yng Ngwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam (GGiDW) gallwn:

  • Ddod o hyd i fathau gwahanol o gefnogaeth i chi a’ch plentyn
  • Rhoi gwybodaeth i’ch teulu am anabledd neu angen ychwanegol eich plentyn 
  • Dod o hyd i ofal plant sydd yn addas i’ch plentyn 
  • Dod o hyd i weithgareddau plant y gall eich plentyn ymuno ynddynt 

Gallwch hefyd ddod o hyd i gefnogaeth drwy Banel Seibiant Anabledd a Gofal Plant, gyda:

  • Cymorth tymor byr gyda chostau gofal plant
  • Cyllid tymor byr i helpu’ch plentyn i setlo mewn i leoliad gofal plant newydd
  • Seibiant tymor byr

Cysylltwch â ni

Os oes gennych chi gwestiynau am fod yn rhiant sy’n gofalu, yn cynnwys cefnogaeth y gallech chi ei gael, cysylltwch â thîm Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam.

Dolenni perthnasol