Mae Cefnogwyr Rhieni’n wirfoddolwyr sy’n gweithio ochr yn ochr â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam i ddarparu gwybodaeth a chyngor i’w cymunedau lleol.  Maent yn cyfeirio rhieni a gofalwyr at wasanaethau lleol ac yn rhannu eu profiadau personol o fod yn rhiant ac yn cael mynediad at gefnogaeth eu hunain. 

Cyfeiriadau ar gyfer rhieni a gofalwyr

Gallwch ofyn i gefnogwyr rhieni am bynciau amrywiol, gan gynnwys:

  • Gweithgareddau a digwyddiadau ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol
  • Gwasanaethau cymorth i rieni
  • Gwasanaethau cymorth iechyd a lles 
  • Gwasanaethau cymorth perthnasoedd
  • Gwasanaethau i blant anabl a phlant sydd ag anghenion ychwanegol

Derbyn cefnogaeth bellach

Os ydych chi wedi cwrdd â chefnogwr rhieni yn eich cymuned leol ac yn awyddus i gael cefnogaeth neu wybodaeth bellach, cysylltwch â ni drwy lenwi’r ffurflen ymholi GGiDW.

Dod yn gefnogwr rhieni

Rydym bob amser yn chwilio am gefnogwyr rhieni newydd a hoffai gefnogi’r teuluoedd yn eu hardal leol.  I ddarganfod mwy am gyfleoedd i wirfoddoli gyda chefnogwyr rhieni, anfonwch e-bost at parentchampions@wrexham.gov.uk.