Yng Ngwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam (GGiDW) rydym yn cynnig gwybodaeth a chyngor i rieni a gofalwyr sy’n gweithio ar destunau fel gweithio'n hyblyg, deddfwriaeth sy’n effeithio ar gydbwysedd gwaith a bywyd, egwyliau gwaith a gofal plant. Yn ogystal â chysylltu â ni i gael rhagor o gyngor, gallwch ddarllen am rywfaint o’r termau sy’n ymwneud â gwaith isod. 

Beth mae ‘cydbwyso gwaith a bywyd’ a ‘gweithio'n hyblyg’ yn ei olygu?

Nid yw polisïau ac arferion gorau cydbwyso gwaith a bywyd yn ymwneud â theuluoedd a gofal plant yn unig, na gweithio llai. Mae’n ymwneud â sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng yr hyn y gallwch chi ei gyflawni yn y gwaith a gartref, a gallu rhoi o’ch gorau ym mhob rhan o’ch bywyd.

Mae sawl gwahanol fath o weithio hyblyg. Dyma rai enghreifftiau: gweithio rhan-amser, gweithio yn ystod y tymor, rhannu swydd, oriau hyblyg, oriau cywasgedig, oriau blynyddol, gweithio gartref, gweithio symudol, egwyliau gyrfa neu ganlyniadau a gomisiynwyd.

Yr hawl i ofyn i gael gweithio’n hyblyg 

Mae hawl cyfreithiol gan bob gweithiwr sydd wedi cael 26 wythnos o wasanaeth cyflogaeth parhaus gyda’r un cyflogwr i ofyn i gael gweithio'n hyblyg. Rhaid i gyflogwyr ymdrin â cheisiadau mewn modd rhesymol. Gall cyflogwr wrthod cais os oes ganddynt reswm busnes da dros wneud hynny.

Yr hawl i hyfforddi

Fel gyda gweithio'n hyblyg, gall gweithwyr sydd wedi gweithio am 26 o wythnosau’n olynol gyda chyflogwr ofyn am amser i hyfforddi. Byddai angen i chi allu dangos y bydd yr hyfforddiant/ cymhwyster yn eich helpu i ddatblygu sgiliau perthnasol i’ch gwaith, gweithle neu fusnes. Gall y cais gael ei wrthod os bydd yn rhoi baich gormodol ar eich cyflogwr i ganiatáu’r cais.

Dolenni defnyddiol

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â GGiDW os hoffech chi wybod mwy am gydbwyso gwaith a bywyd a sut y gallwch wneud iddo weithio i chi.