Trwy Orchymyn yr Uchel Lys Cyfiawnder, dyddiedig 19 Mai 2025, mae penderfyniad Cyngor Wrecsam ar 20 Rhagfyr 2023 i fabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) wedi'i ddiddymu. Nid yw'r CDLl bellach yn rhan o'r cynllun datblygu ar gyfer Wrecsam ac mae bellach yn gynllun heb ei fabwysiadu.

Mae'r cynllun datblygu ar gyfer Wrecsam bellach yn cynnwys Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 (dolen gyswllt allanol) a Chynllun Datblygu Unedol Wrecsam 1996-2011, a fabwysiadwyd yn 2005 - yn nhrefn hierarchaeth gyfreithiol.

Gallwch gysylltu â’n Hadran Gynllunio os oes gennych chi unrhyw ymholiadau.