Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi targedau newydd i leihau lefelau ffosffad afonydd mewn ardaloedd cadwraeth arbennig ar draws Cymru. Fe allai hyn gael effaith ar geisiadau cynllunio a datblygiadau arbennig.

Beth yw ffosfforws a pham ei fod yn cael effaith ar ein hafonydd?

Mae ffosfforws yn faethyn y mae lefelau isel ohono’n digwydd yn naturiol ac sy’n angenrheidiol ar gyfer afonydd iach. Mae’n cael ei ryddhau’n araf ar lefelau isel o ffynonellau naturiol, yn sgil erydiad naturiol ar lannau afonydd, er enghraifft.

Fodd bynnag, pan fydd lefelau uchel o ffosffad, hwn yw’r maetholyn mwyaf niweidiol mewn dŵr croyw a gall arwain at ewtroffigedd. Mae ewtroffigedd yn digwydd pan mae gormod o faethynnau’n achosi tyfiant trwchus o blanhigion a marwolaeth anifeiliaid yn dilyn hynny oherwydd diffyg ocsigen.

Prif ffynonellau ffosfforws yw:

  • amaethyddiaeth (mae i’w gael mewn gwrteithiau a dŵr ffo o dail)
  • carthffosiaeth (o gartrefi a datblygiadau eraill sy’n cynhyrchu dŵr gwastraff sy’n cynnwys carthion, gwastraff bwyd a chynhyrchion glanhau).

Pam bod targedau newydd wedi cael eu cyhoeddi?

Mae’r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur wedi canfod tystiolaeth newydd y gallai tywydd cynhesach a sychach, a ragwelir o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, leihau llif afonydd yn ystod yr haf ac felly cynyddu crynodiadau ffosffad.

Mae’r targedau newydd hefyd yn seiliedig ar dystiolaeth newydd ynghylch effeithiau niweidiol ffosffadau ar rywogaethau ac ecosystemau dŵr.

Lefelau ffosffad afonydd yng Nghymru

Ar hyn o bryd, mae dros 60% o’r cyrff dŵr yng Nghymru’n methu’r targedau llymach. Gofynnir i awdurdodau cynllunio lleol Cymru gymryd mwy o gamau i atal yr amgylchedd rhag dirywio ymhellach. 

Mae’n rhaid i unrhyw gynigion ar gyfer datblygu o fewn dalgylchoedd afonydd ACA (yn enwedig y rhai a fydd yn cynyddu cyfaint neu grynodiad y dŵr gwastraff) brofi bellach na fydd y dyluniad yn cyfrannu at gynyddu lefelau ffosffad.

Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn Wrecsam

Mae Afon Dyfrdwy wedi’i ddynodi fel ACA, ac mae’r mwyafrif o Fwrdeistref Sirol Wrecsam wedi’i lleoli o fewn ei ddalgylch. Mae’r afon yn methu targedau Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd.

Hyd nes y byddwn wedi cael canllawiau pellach ac yn gallu mesur a lliniaru’r effaith ar lefelau ffosffad, ni allwn benderfynu ar rai ceisiadau cynllunio yn yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig hyn. 

Nid yw’r sefyllfa hon yn unigryw i Wrecsam – mae llawer o awdurdodau cynllunio lleol eraill yng Nghymru yn yr un sefyllfa sydd wedi achosi i lawer o brosiectau adeiladu ledled Cymru gael eu gohirio.  Er ein bod yn gweithio’n galed i ddod o hyd i ateb, yn anffodus, gallai hyn gymryd peth amser.

Beth ydym ni’n ei wneud

Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i amlinellu ein pryderon am yr effaith ar ddatblygu ac wedi egluro ein bod am ddod o hyd i ateb cyn gynted â phosibl. 

Rydym hefyd yn:

  • llunio canllawiau i helpu datblygwyr i ddeall yr hyn sy’n ofynnol
  • creu cyfrifiannell ffosffad i ddatblygwyr gyfrifo lefel y ffosffadau y bydd eu datblygiad yn ei chynhyrchu, ynghyd â chyfrifiadau i liniaru a gwrthbwyso lefelau ffosffad

Rydym yn cydnabod y bydd y sefyllfa hon yn rhwystredig i ddatblygwyr. Rydym yn awyddus i weithio gyda chi i ddod o hyd i atebion sy’n gwella cyflwr ein hafonydd, sy’n ddichonadwy ac y gellir eu rhoi ar waith yn gyflym ac yn llwyddiannus. 

Rydym am ymgysylltu gydag amrywiaeth eang o bobl sy’n cynrychioli adeiladwyr tai, cyflogwyr, y gymuned ffermio, preswylwyr, grwpiau amgylcheddol a mwy i drafod y materion hyn.

Y math o ddatblygiadau yr effeithir arnynt

Mae’r mathau o ddatblygiadau y gellir effeithio arnynt yn cynnwys (nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth a gellid ei hadolygu):  

  • Unedau preswyl newydd gan gynnwys tai, safleoedd/lleiniau sipsiwn a theithwyr
  • Atyniadau twristiaeth a datblygiadau masnachol lle darperir llety dros nos.
  • Datblygiad amaethyddol, gan gynnwys hysbysiadau ymlaen llaw (datblygiadau nad oes angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer, ond lle mae angen i ni gadarnhau ei fod yn cael ei ganiatáu) gan gynnwys ysguboriau ychwanegol a storfeydd slyri sy’n debygol o arwain at gynnydd mewn anifeiliaid.
  • Hysbysiadau ymlaen llaw am newid defnydd swyddfa yn gartref ac adeilad amaethyddol yn gartref.
  • Gweithrediadau sy’n cynhyrchu ffosffad megis pysgodfeydd a chyfleusterau golchi ceir.

Ar hyn o bryd, ni allwn brosesu rhai ceisiadau o’r math hwn. Bydd ein safbwynt yn cael ei ddiweddaru unwaith y byddwn wedi cael canllawiau pellach ac yn gallu mesur a lliniaru’r effaith ar lefelau ffosffad.

Ceisiadau yr ydym yn dal i allu penderfynu arnynt

Rydym yn dal i allu penderfynu ar rai ceisiadau yn y fwrdeistref sirol, gan gynnwys:

  • Unrhyw ddatblygiad nad yw’n cynyddu cyfaint na chrynodiad y dŵr gwastraff, gan gynnwys estyniadau nad ydynt yn cynyddu defnydd na chyfaint na chrynodiad y dŵr gwastraff
  • Unrhyw ddatblygiad sy’n gwella ansawdd gollyngiadau dŵr presennol drwy leihau ffosffadau mewn dŵr gwastraff, neu drwy leihau cyfaint y dŵr a gynhyrchir (er enghraifft drwy wella’r seilwaith trin dŵr gwastraff presennol)
  • Systemau trin carthion preifat sy’n gollwng dŵr gwastraff domestig i’r ddaear sy’n bodloni’r canlynol:
    • maent wedi’u hadeiladu’n unol â’r Safon Brydeinig berthnasol (BS 6297:2007+A1:2008)
    • mae uchafswm y gyfradd ollwng ddyddiol yn llai na 2 fetr ciwbig (m3)
    • mae’r cae draenio’n fwy na 40m o unrhyw nodwedd dŵr wyneb fel afon, nant, ffos neu ddraen
    • mae’r cae draenio’n fwy na 50m o ffin Ardal Cadwraeth Arbennig
    • mae’r dŵr yn cael ei ollwng i’r ddaear o leiaf 200m o unrhyw ollyngiad arall i’r ddaear ac nid yw dwysedd y gollyngiadau i’r ddaear yn fwy nag 1 am bob 4 hectar (neu 25 fesul km 2), mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw effaith arwyddocaol mewn cyfuniad ag effeithiau eraill.

Cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiad o fewn ACA

Os nad ydych wedi cyflwyno cais eto, efallai yr hoffech aros am gynnydd pellach o ran atebion.

Os ydych dal am fwrw ymlaen, neu eisoes wedi cyflwyno cais, gofynnir i chi roi cymaint o wybodaeth â phosibl i ni am y cynigion draenio dŵr budr ar gyfer eich safle. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych mewn ardal nad yw wedi’i chysylltu â phrif garthffos. Bydd hyn yn ein helpu wrth ystyried effaith eich datblygiad ar lefelau ffosffad.

Gallech dynnu eich cais yn ôl ac aros am gynnydd pellach o ran atebion neu siarad â’ch swyddog cynllunio i gytuno ar estyniad i’ch cais.

Gallech hefyd arfer eich hawl i apelio os nad oes penderfyniad wedi’i wneud ar ôl wyth wythnos o’r adeg y cofrestrwyd/dilyswyd eich cais. Ond bydd yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn ystyried effeithiau’r datblygiad ar lefelau ffosffad.

Llywodraeth Cymru: Penderfyniadau Cynllunio a’r Amgylchedd Cymru (dolen allanol)

Rydym hefyd yn eich cynghori i gadw llygad ar gynnydd eich cais ar ein system a chofrestru i gael diweddariadau.  

Estyniadau arfaethedig ar gyfer teuluoedd presennol heb gynnydd mewn dŵr gwastraff budr

Roedd ein dealltwriaeth gychwynnol o’r canllawiau’n golygu ein bod yn sgrinio unrhyw gais am estyniad domestig a oedd yn creu’r potensial am gynnydd yn neiliadaeth preswylfa.

Mae nifer o oblygiadau ynghlwm â’r rheol hon, gan gynnwys:

  • ansawdd bywyd yn achos lefelau deiliadaeth nad ydynt yn newid
  • goblygiadau economaidd-gymdeithasol yn cynnwys cadw teuluoedd mewn dalgylchoedd yr effeithir arnynt.

Felly, nid yw effeithiolrwydd cyfateb estyniadau â chynnydd mewn lefelau gwastraff dŵr yn ddigon dibynadwy.

Yn hytrach na chyhoeddi canllawiau yn hyn o beth, mae CNC wedi darparu eglurhad ar sgrinio ceisiadau am estyniadau domestig. Maent wedi dweud y byddai’n afresymol tybio y byddai estyniad domestig (h.y. estyniad i breswylfa un aelwyd, a fydd yn parhau’n un aelwyd) yn arwain at gynnydd cyfatebol mewn dŵr budr o’r eiddo, gan fod deiliadaeth yr eiddo hwnnw tu allan i reolaeth y system gynllunio.

O ganlyniad i’r eglurhad hwn gan CNC, ni ddylai newid posibl yn nifer y deiliaid gyfiawnhau sbarduno effeithiau sylweddol tebygol ar ACA.

Rydym wedi penderfynu defnyddio’r dehongliad hwn ar gyfer ceisiadau am estyniadau domestig mewn dalgylchoedd ACA yn Wrecsam, fel ymagwedd ymarferol lle defnyddir synnwyr cyffredin.

Noder nad yw’r rheol hon yn berthnasol i geisiadau am randy.

Ceisiadau i adeiladu tŷ a defnyddio gwaith trin dŵr gwastraff preifat i gydymffurfio â’r gofynion mewn ardal sydd wedi’i chysylltu â phrif garthffos

Fel arfer, ni ystyrir ei bod yn amgylcheddol dderbyniol gosod cyfleuster trin carthion preifat mewn ardaloedd lle mae prif garthffosydd  oherwydd bod mwy o risg o fethu, a allai arwain at lygredd.

Mae canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru’n nodi, lle bo modd, y dylid gollwng dŵr gwastraff budr datblygiad newydd i garthffos gyhoeddus.

Cyfoeth Naturiol Cymru: trin carthion yn breifat mewn ardal sydd â charthffos gyhoeddus (dolen allanol)

Os oes modd dangos nad yw cysylltu â charthffos gyhoeddus yn bosibl (oherwydd cost a/neu faterion ymarferol), yna gellid ystyried gwaith trin dŵr gwastraff preifat – neu system waredu carthion nad yw’n cysylltu â phrif garthffos.

Mae’n rhaid cael trwydded amgylcheddol, neu gofrestru eithriad gyda CNC, i weithredu system ddraenio breifat.

Ni fydd CNC fel arfer yn rhoi trwydded gollwng dŵr ar gyfer system trin carthion breifat lle mae’n rhesymol cysylltu â’r garthffos dŵr budr gyhoeddus.

Ceisiadau am newid defnydd o ddefnydd masnachol presennol (neu ddefnydd tebyg arall) i ddefnydd preswyl

Pan fydd newid o ddefnydd masnachol presennol (neu ddefnydd tebyg arall) i ddefnydd preswyl, tybir y bydd hyn yn arwain at gynhyrchu mwy o ddŵr gwastraff. Mae hynny’n golygu y bydd mwy o faethynnau’n cael eu gollwng i waith trin dŵr gwastraff.

Mae capasiti gan waith trin dŵr gwastraff o’r fath, a phan gyrhaeddir y capasiti hwn, nid oes ffordd hawdd o greu mwy o le. Mae hyn yn creu mwy o risg o orlwytho a allai gynyddu faint o faethynnau sy’n cael eu gollwng i gyrsiau dŵr.

Bydd yn rhaid cynnal asesiad rheoliadau cynefinoedd a rhoi mesurau lliniaru ar waith ar gyfer y math hwn o ddefnydd.

GOV.UK: asesiadau rheoliadau cynefinoedd (dolen allanol)

 

Os ydych yn ffermwr mewn ardal sensitif i ffosffad

Mae datblygiadau amaethyddol newydd sy’n gallu cyfrannu at faint o ffosfforws sy’n mynd i mewn i’r safle dynodedig. Bydd y datblygiadau hyn yn:

  • cynnwys storio, rheoli a gwasgaru deunydd organig
  • o fewn dalgylch ACA afonol

Mae’n debygol yr effeithir ar ddatblygiadau o’r fath a bydd angen rhoi mesurau lliniaru ar waith.

Mae mesurau rheoli maethynnau, tir, tail a chynefinoedd y gellir eu rhoi ar waith i leihau faint o ffosffad sy’n mynd i mewn i afonydd o ffynonellau gwasgaredig. Mae newidiadau y gellir eu gwneud ar unwaith hefyd, er enghraifft, codi ffensys ar hyd glannau afonydd i atal anifeiliaid rhag mynd i mewn i’r afonydd.

Hoffem archwilio syniadau ynghylch rheoli dalgylchoedd gyda’r gymuned ffermio. Cysylltwch â’n Hadran Gynllunio i drafod hyn os gwelwch yn dda.

Os ydych chi mewn grŵp amgylcheddol neu grŵp afonydd

Mae afonydd iach yn cefnogi cadernid cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a’r gallu i addasu i newid.

Rydym yn deall y pryderon am ansawdd amgylcheddol yr afonydd hyn. Mae arnom ni eisiau canfod atebion sy’n gwella amgylchiadau naturiol bioamrywiol ac yn hyrwyddo ecosystemau iach.

Mae arnom ni eisiau gweithio gyda grwpiau amgylcheddol a grwpiau afonydd i ddod o hyd i atebion a byddem yn croesawu eich cyfranogiad. Cysylltwch â’n Hadran Gynllunio i drafod hyn os gwelwch yn dda.

A fydd hyn yn effeithio ar fabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) diwygiedig?

Yn anffodus, bydd oedi o ran y broses CDLl wrth i ni ailasesu goblygiadau’r safonau newydd.

A oes unrhyw atebion?

Oes, ac maent yn seiliedig ar natur yn bennaf. Gall y mater fod yn gymhleth ac mae angen archwilio amrywiaeth o fesurau megis cael gwared ar ffosffad yn y ffynhonnell, lliniaru a gwrthbwyso, yn ôl y dalgylch a’r safle penodol.