Dysgwch fwy ynglŷn â bod yn gynghorydd os oes gennych chi ddiddordeb sefyll mewn etholiad i naill ai Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam neu gynghorau tref/cymuned yn Sir Wrecsam.

Ynglŷn â’r cyngor

Fel cyngor lleol rydym ni’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynglŷn â llawer o wasanaethau sydd yn effeithio ar fywydau preswylwyr yn Wrecsam.

Rydym yn gweithredu trwy adrannau – mae gan bob un gyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau penodol sydd yn cefnogi nodau strategol a pholisïau corfforaethol y Cyngor.

Siarad gyda chynghorwyr presennol

Mae Cynghorwyr yn dod i gyswllt â’r cyhoedd yn rheolaidd drwy gyfarfodydd y Cyngor, galwadau ffôn neu gymorthfeydd. Mae cymorthfeydd yn gyfle i unrhyw breswylydd mewn ward siarad gyda’u cynghorydd.

Mae nifer o’n cynghorwyr yn weithgar ar gyfryngau cymdeithasol hefyd lle gallwch gysylltu â nhw.

Sefyll mewn etholiad

Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru (cymorth i ymgeiswyr anabl)

Mae’r gronfa hon yn helpu pobl anabl sydd eisiau sefyll i gael eu hethol i gwrdd â’r costau ychwanegol sydd yn eu rhwystro rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Caiff ei gweinyddu gan Anabledd Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae sianel YouTube Anabledd Cymru hefyd yn darparu fideos am y gronfa a chymryd rhan yn y broses wleidyddol:

Beth sy’n digwydd os caf i fy ethol?

Os ydych chi’n llwyddiannus yn eich etholiad, fe fyddwch chi’n dod yn gynghorydd lleol yn ffurfiol pan fyddwch chi’n llofnodi eich datganiad derbyn y swydd. Mae angen llenwi’r datganiad o fewn 4 diwrnod ar ôl canlyniad yr etholiad.

Fe fyddwch chi’n cael pecyn cynefino sydd yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu wrth i chi gychwyn ar eich swydd fel cynghorydd.

Fe all y wybodaeth ganlynol fod yn ddefnyddiol i chi hefyd:

Bod yn gynghorydd lleol

Beth mae swydd cynghorydd yn ei olygu?

Caiff cynghorwyr eu hethol i gynrychioli'r gymuned a’i phreswylwyr. Maent yn helpu i benderfynu sut y caiff gwasanaethau lleol eu darparu, eu hariannu a’u blaenoriaethu. 

Gall cynghorwyr lleol hefyd helpu i gynnal partneriaethau effeithiol gyda sefydliadau sydd yn annibynnol o’r cyngor, ond sydd yn cael effaith ar ei feysydd gwasanaeth.  Maent yn gwneud hyn drwy fod yn aelod o bwyllgorau a fforymau sydd yn gyfrifol am y cyrff allanol yma.

Pa gefnogaeth y byddaf yn ei chael fel cynghorydd?