Caiff pob cynghorydd ei ethol i wasanaethu ward (ardal neu gymuned benodol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam). Maent yn cynrychioli’r preswylwyr yn eu ward i redeg y cyngor.

Bydd arnoch angen sicrhau eich bod yn gyfarwydd â ffiniau’r ward er mwyn i chi wybod pa ardaloedd rydych chi’n dymuno eu cynrychioli. Mae yna rai gofynion er mwyn sefyll mewn etholiad, yn cynnwys mathau penodol o gysylltiadau â’r ardal rydych eisiau ei chynrychioli.

Mewn sawl ardal alla’ i sefyll mewn etholiad?

Os oes gennych chi gysylltiad â mwy nag un ardal leol, gallwch gyflwyno sawl papur enwebu. Serch hynny, os bydd mwy nag un enwebiad yn cael ei dderbyn yna bydd yn rhaid i chi dynnu yn ôl o bob ward heblaw am un. Y rheswm am hyn yw na allwch chi sefyll mewn etholiad mewn mwy nag un ward.