Mae’r Cyfansoddiad yn nodi sut mae'r Cyngor yn gweithredu, sut y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud, a'r gweithdrefnau rydym yn eu dilyn i sicrhau ein bod yn effeithlon, yn dryloyw ac yn atebol i bobl leol. Mae Adran 25 y cyfansoddiad yn ymwneud â thâl aelodau etholedig, ac mae’n diffinio’r meini prawf yn glir ar gyfer hawlio treuliau. Mae’r rheolau yn llym a rhennir nodiadau canllaw i bob aelod etholedig.

Rydyn yn llunio, cyhoeddi ac yn cynnal Atodlen Tâl Aelodau, yn unol â gofyniad Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol Cymru, sy'n gymwys i bob awdurdod lleol yng Nghymru.

Dogfennau

Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth ar lwfansau Aelodau hefyd.

Teithio

Bydd yr Awdurdod yn parhau i ddefnyddio gwasanaethau clwb Teithio Busnes.

Bydd y Clwb teithio’n trefnu anghenion siwrneiau a llety aelodau etholedig. Bydd hyn yn darparu dull cydlynol o weithio ar draws y Awdurdod a bydd yn sicrhau bod y TAW ar bob cyfrif yn ymwneud â llety yn cael ei adennill.

Bydd pob trefniant teithio / llety yn cael eu gwneud gan Wasanaethau'r Aelodau, ac mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, bydd gofyn i’r aelodau gyflwyno hawliadau unigol am ad-daliad.

(a) Beth y gallwch ei hawlio ar ei gyfer

 (i) Teithio i gyfarfodydd y Cyngor, gan gynnwys y Bwrdd Gweithredol, pwyllgorau ac is-bwyllgorau, paneli a gweithgorau.

 (ii) Teithio i ddyletswyddau a gymeradwywyd

 (iii) Teithio i gyfarfodydd, ac ati. (gan gynnwys cyfarfodydd gyda Swyddogion) sy’n ymwneud â’r cyfrifoldebau arbennig hynny yr ydych yn derbyn tâl cyfrifoldeb arbennig.

 (iv) Teithio i gynadleddau sydd wedi cael eu cymeradwyo yn unol â dirprwyaethau 23 a 24 y Prif Swyddog Llywodraethu a Chwsmeriaid sydd wedi'u cynnwys yn Adran 13 Cyfansoddiad y Cyngor (Cyfrifoldebau dros Swyddogaethau) mewn ymgynghoriad gyda'r Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd. Mewn achosion lle mae’r Arweinydd neu’r Dirprwy Arweinydd yn gyfranogwr arfaethedig mewn cynhadledd, ymgynghorir â’r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch, a Llywodraethu.

O ran (ii) a (iii) uchod, dylid gwneud penderfyniadau ynghylch teithio, arhosiad dros nos a threuliau eraill (gweler drosodd)  yn unol â'r protocol yn Atodiad 3.

(b) Beth allwch ei hawlio (teithio)

Mae costau teithio yn ad-daliad o’r costau a dalwyd.  Os nad yw teithio wedi costio unrhyw beth i chi oherwydd eich bod wedi teithio yng ngherbyd rhywun arall er enghraifft, neu cawsoch gludiant am ddim, nid oes modd hawlio.  Rydych yn cadarnhau eich bod wedi talu’r costau a hawliwyd.

Gallwch hawlio:

i.    Ffioedd bysiau.

ii.    Ffioedd trên – dosbarth safonol a chostau cadw sedd os yw’n berthnasol. (Gellir defnyddio, hawlio dosbarth cyntaf os yw’n cael ei gymeradwyo ymlaen llaw gan Pennaeth Corfforaethol a Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn unig neu os yw'n cael ei gymeradwyo gan gorff allanol yr ydych yn eu cynrychioli a fydd yn ad-dalu’r Cyngor yn llawn).

iii.    Milltiroedd car. (Sylwer: Disgwylir i Aelodau deithio gyda swyddogion neu Aelodau eraill pan fo’n bosib).  Caiff milltiroedd car tu allan i ardal y Fwrdeistref Sirol eu talu pan mae’n glir nad yw cludiant cyhoeddus yn ddewis hyfyw neu pan fyddai teithio gyda char yn disodli’r angen i aros dros nos yn unig.  Efallai bydd Aelodau’n dewis defnyddio dulliau eraill heblaw am gludiant cyhoeddus, ond bydd ffi trên yn cael ei dalu beth bynnag fo’r dull teithio.

iv.    Ffioedd tacsi, ond mewn achosion brys yn unig, pan nad oes cludiant cyhoeddus rhesymol ar gael.

v.    Ffioedd hedfan, os yw’n cael ei gymeradwyo ymlaen llaw gan Brif Swyddog Llywodraethu a Chwsmeriaid ar sail arbed amser sylweddol neu argyfwng. (Noder: nid yw hyn yn gymwys i deithio dramor – gweler yr adran perthnasol ar wahân).

Cynhaliaeth

(a) Beth y gallwch ei hawlio ar ei gyfer

Cynhaliaeth Dydd – Tu allan i ardal y Fwrdeistref Sirol (gweler Atodiad 2 am y gyfradd)

Cynhaliaeth Dros Nos – mae’r gyfradd fwyaf (gweler Atodiad 2) yn caniatáu ad-daliad o gostau'r llety, prydau bwyd a chostau eraill mewn cyfnod o 24 awr.

Dylid hawlio am arhosiad dros nos pan fo'n afresymol teithio a dychwelyd ar yr un diwrnod, neu mewn llai o ddyddiau na’r hyn a hawliwyd amdanynt. Efallai bydd Prif Swyddog Cyllid a TGCh yn gwrthod ceisiadau pan mae’n ystyried eu bod yn ormodol. Bydd Swyddogion priodol neu Swyddogion sy’n mynd gyda'r Aelodau yn archebu ac yn trefnu anfonebau ar gyfer gwestai a threnau fel arfer.

Cyfraddau Teithio a Chynhaliaeth Aelodau (o 1 Ebrill 2016)

Cyfraddau Teithio a Chynhaliaeth Aelodau
Cynhaliaeth yn ystod y Dydd £ Mwyaf
Cynhaliaeth yn ystod y Dydd 28.00
Cynhaliaeth Dros Nos
Cynhaliaeth Dros Nos (24 awr) £ Mwyaf
Llundain 200.00
Lleoliadau eraill 95.00
Mae Mân Dreuliau’n cael eu cynnwys o fewn y gyfradd dros nos 11.80
Aros gyda pherthnasau 25.00
Ymweliadau Dramor
Ymweliadau Dramor £ Mwyaf
Mân Dreuliau 23.60
Milltiroedd car
Milltiroedd Car Y Filltir
Hyd at 10,000 milltir 45c
Dros 10,000 milltir (5c y filltir - tâl atodol teithiwr) 25c
Beic Modur Preifat 24c
Beic 20c

Cysylltwch â ni

E-bost: finance@wrexham.gov.uk