Bob blwyddyn penderfynir ar lefel y lwfans ar gyfer taliadau a wneir i’n haelodau etholedig gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. 

Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, rydym yn cyhoeddi gwybodaeth yn flynyddol ynghylch y taliadau mae aelodau etholedig yn eu cael.

1.    O 1 Ebrill, 2025 i 31 Mawrth, 2026 cafodd aelodau etholedig y taliadau canlynol:

Cyflog sylfaenol blynyddol

  • £19,771

Uwch gyflogau blynyddol (yn cynnwys cyflog sylfaenol uchod)

  • Arweinydd y Cyngor - £66,727
  • Dirprwy Arweinydd - £46,709
  • Aelodau Bwrdd Gweithredol gyda chyfrifoldeb arwain - £40,036
  • Cadeirydd Pwyllgor - £29,657

Cyflogau dinesig 

  • Maer - £29,657
  • Dirprwy Faer - £23,726

Ffioedd Aelodau cyfetholedig

  • Cadeirydd - £268 yn ddyddiol (£134 hanner diwrnod)
  • Aelod arferol – £210 y dydd (£105 am hanner diwrnod)

2.    Mae ad-daliad costau teithio a threuliau wrth wneud dyletswyddau a gymeradwywyd gan yr awdurdod hefyd wedi eu cynnwys ar y rhestr.

3.    Mae taliadau a wnaed gan gyrff eraill i aelodau etholedig yr awdurdod hwn hefyd wedi eu cynnwys ar y rhestr.

Rydym hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth ar dâl aelodau.