Mae'r camau a’r prosesau amrywiol sydd ynghlwm ag etholiad wedi'u nodi mewn deddfwriaeth.

Mae’r amserlen isod yn nodi’r camau amrywiol sy’n cael eu dilyn yn y cyfnod wrth nesáu at etholiad. Mae’n cynnwys beth y mae disgwyl i chi ei wneud i gwblhau eich tasgau amrywiol fel ymgeisydd a beth y gallwch ei ddisgwyl gennym ni wrth weinyddu’r etholiad.

Amserlen etholiad

Hysbysiad o etholiad

Yr hysbysiad o etholiad yw cychwyn ffurfiol ar y broses etholiadau.

Gellir dosbarthu’r papurau enwebu ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad yma.  

Dosbarthu papurau enwebu

Gellir cyflwyno enwebiadau i sefyll mewn etholiad. 

Cau / tynnu enwebiad yn ôl

Ni ellir cyflwyno enwebiadau ar gyfer etholiad, na’u tynnu yn ôl na’u newid ar ôl y dyddiad yma. 

Dyddiad cau i benodi asiantau etholiadol

Os ydych chi’n sefyll ar gyfer y cyngor bwrdeistref sirol ac yn penodi asiant etholiadol, dyma’r dyddiad cau i benodi rhywun i’r swydd honno neu fel arall chi fydd eich asiant etholiadol eich hun yn ddiofyn. 

Datganiad am y sawl a enwebwyd

Bydd yr hysbysiad yma’n arddangos enwau pawb fydd yn sefyll yn yr etholiad. 

Dyddiad cau i etholwyr gofrestru i bleidleisio

Dyma’r diwrnod olaf y gall etholwyr gofrestru ar y gofrestr etholiadol er mwyn sicrhau eu bod wedi cofrestru mewn digon o bryd cyn yr etholiad i allu pleidleisio.

Dyddiad cau i etholwyr wneud cais, canslo neu newid i bleidlais drwy'r post

Mae’n rhaid i bleidleiswyr sydd methu mynychu gorsaf bleidleisio i bleidleisio wneud cais am bleidlais drwy'r post ddim hwyrach na’r dyddiad cau yma (mae ein tudalen ‘sut i bleidleisio’ yn egluro sut y gellir gwneud hyn).

Dyddiad cau i etholwyr i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy

Gall pleidleiswyr sydd methu mynychu gorsaf bleidleisio neu bleidleisio drwy’r post benodi rhywun arall i bleidleisio ar eu rhan ddim hwyrach na’r dyddiad cau yma (mae ein tudalen ‘sut i bleidleisio’ yn egluro sut y gellir gwneud hyn).  

Dyddiad cau i benodi asiantau cyfrif a phleidleisio

Mae gan ymgeiswyr hawl i benodi asiantau i arsylwi elfennau penodol o’r broses bleidleisio er mwyn tryloywder. Dyma’r dyddiad cau i roi gwybod i’r Swyddog Canlyniadau o’ch penodiadau ar gyfer yr etholiad.

Diwrnod pleidleisio

Dyma’r diwrnod y bydd pleidleiswyr yn mynychu gorsafoedd pleidleisio i bleidleisio yn yr etholiadau.  Bydd Gorsafoedd Pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm.

Cyfri’r pleidleisiau

Mae amseru’r cyfrif yn dibynnu ar bob etholiad unigol, ond mae fel rheol yn digwydd ar ôl yr amser y mae'r gorsafoedd pleidleisio'n cau a thrwy gydol noson yr etholiad, neu bydd yn dechrau’r diwrnod canlynol.

Dyddiad cau i gyflwyno treuliau etholiad (cyngor bwrdeistref sirol)

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd sydd yn sefyll mewn etholiad gyflwyno set o ffurflenni treuliau etholiad sydd yn cadarnhau na wnaethant wario mwy na’r cyfyngiadau fel rhan o’u hymgyrch.