Cofrestru i bleidleisio (dolen gyswllt allanol)

Ynglŷn â Chofrestru

Er mwyn pleidleisio mewn unrhyw etholiad neu refferendwm yn y DU, mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio. Os ydych chi wedi symud tŷ’n ddiweddar, neu os nad ydych chi wedi cofrestru, bydd arnoch chi angen cofrestru cyn y gallwch bleidleisio.

Enw’r system bresennol ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw Cofrestru Etholiadol Unigol.  Mae pob aelod o'r aelwyd yn gyfrifol am gofrestru eu hunain (yn hytrach nag un person yn y cartref yn gyfrifol am gofrestru pawb, fel yr arferai fod yn flaenorol).

Pwy all gofrestru?

Yng Nghymru gallwch gofrestru os ydych yn 14 oed neu hŷn, mae’n rhaid i chi hefyd fod yn un o’r canlynol:

  • Dinesydd y DU
  • yn ddinesydd Gwyddelig, yr UE neu’r Gymanwlad gyda chyfeiriad parhaol yn y DU
  • dinesydd tramor cymwys

Dinesydd tramor cymwys yw dinesydd gwlad arall sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, neu sydd heb angen caniatâd o’r fath.

Oedran pleidleisio

Er y gallwch gofrestru unwaith y byddwch yn 14 oed yng Nghymru, gallwch ond pleidleisio pan ydych yn 16 oed neu hŷn yn etholiadau’r Senedd (yn 2021). Ar gyfer pob etholiad arall gallwch ond pleidleisio pan fyddwch yn 18 oed neu hŷn.

Sut i gofrestru

Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein.

Fodd bynnag, os oes angen cais papur arnoch, gallwch wneud cais am un drwy e-bostio electoral@wrexham.gov.uk neu ffonio 01978 292020. Bydd rhaid i chi ddarparu eich dyddiad geni a’ch Rhif Yswiriant Gwladol.

Os nad yw eich enw, eich dyddiad geni a’ch rhif yswiriant gwladol yn cyfateb ar ôl i chi wneud cais i gofrestru, byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am dystiolaeth ddogfennol pellach, fel copi o'ch pasbort neu’ch trwydded yrru â llun.

Ar ôl cofrestru i bleidleisio, byddwch yn cael eich ychwanegu at y gofrestr etholwyr. Byddwch ond yn gorfod cofrestru eto os ydych yn newid eich cyfeiriad, eich enw neu eich cenedligrwydd.

Pryd gaf gofrestru?

Os ydych yn gymwys i bleidleisio, cewch gofrestru ar unrhyw adeg drwy gydol y flwyddyn.

Fodd bynnag, os ydych am bleidleisio mewn etholiad penodol bydd dyddiad cau a bydd rhaid i chi gofrestru erbyn y dyddiad hwnnw. Bydd y dyddiad hwn yn cael ei bennu yn ddibynnol ar pryd y bydd yr etholiad yn cael ei gynnal.

Y gofrestr etholiadol

Mae'r gofrestr etholiadol yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus.

Mae dau fersiwn o’r gofrestr – y gofrestr etholiadol lawn a’r gofrestr agored (a elwir hefyd yn gofrestr olygedig). Caiff y cofrestrau eu rheoli’n lleol gan ein swyddogion cofrestru.

Ynglŷn â’r gofrestr etholiadol lawn

Mae’r gofrestr hon yn rhestru enwau a chyfeiriadau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio (ac eithrio’r unigolion hynny sydd wedi cofrestru i bleidleisio’n ddienw).

Defnyddir y gofrestr etholiadol lawn at ddibenion etholiadol megis sicrhau mai pobl sy'n gymwys i bleidleisio'n unig sy'n gwneud hynny. Fe'i defnyddir hefyd gan rai unigolion a sefydliadau at ddibenion canfod troseddau, cysylltu â phobl i drefnu gwasanaeth rheithgor, gweithgareddau ymgyrchu a cheisiadau gwirio credyd.

Mae dibenion y gofrestr wedi’u rhestru yn y gyfraith ac mae’n drosedd i unrhyw un ddefnyddio’r gofrestr at ddibenion eraill.

Gweld y gofrestr lawn

Nid yw’r gofrestr lawn ar gael i’w gweld ar hyn o bryd, gan fod Neuadd y Dref ynghau oherwydd cyfyngiadau Covid-19.

Gallwch weld y gofrestr etholiadol lawn unrhyw amser yn Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY, dan yr amodau canlynol:

  • gallwch weld y gofrestr o dan oruchwyliaeth
  • gallwch gymryd dyfyniadau o’r gofrestr, ond dim ond gyda nodiadau a ysgrifennwyd â llaw
  • ni ddylid defnyddio’r wybodaeth a gymerir at ddibenion marchnata uniongyrchol, yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, oni fydd wedi’i chyhoeddi yn y gofrestr agored

Ynglŷn â’r gofrestr agored

Mae'r gofrestr agored yn ddetholiad o'r gofrestr etholiadol lawn, ond ni chaiff ei defnyddio mewn etholiadau. Gall unrhyw berson, cwmni neu sefydliad ei phrynu. Er enghraifft, fe'i defnyddir gan fusnesau ac elusennau i gadarnhau manylion enw a chyfeiriad.

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad ar y gofrestr agored oni bai eich bod yn gofyn iddynt eu tynnu oddi arni. Nid yw tynnu eich manylion oddi ar y gofrestr agored yn effeithio ar eich hawl i bleidleisio.

Sut ydw i'n ymuno neu'n gadael y gofrestr agored?

Os ydych yn cofrestru ar-lein, cewch ddewis peidio â chael eich cynnwys ar y gofrestr agored wrth gwblhau eich cais.

Os ydych eisoes wedi cofrestru, cewch ddewis ail-gofrestru ac optio allan o fod ar y gofrestr agored.

Os ydych  chi eisoes wedi cofrestru, gallwch optio allan ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’n Tîm Gwasanaethau Etholiadol drwy e-bostio electoral@wrexham.gov.uk.  Bydd rhaid i chi nodi eich enw a’ch cyfeiriad yn llawn a nodi os ydych yn dymuno i’ch enw gael ei gynnwys neu ei dynnu oddi ar y gofrestr agored.

Cysylltu â’r Gwasanaethau Etholiadol

Ebost: electoral@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292020