Mae Cyngor Wrecsam yn canfasio’n flynyddol. Byddwn yn dechrau gwaith canfasio eleni ym mis Medi 2025 ac yn cyhoeddi'r gofrestr etholiadol newydd ar 1 Rhagfyr 2025.
Beth yw'r canfasio blynyddol?
Mae’r canfasio blynyddol yn ymgyrch cofrestru pleidleisiwr sy’n rhaid ei gynnal yn ôl y gyfraith. Mae’n cael ei wneud fel y gall y gofrestr etholiadol ar gyfer Wrecsam gael ei gwirio a’i diweddaru (i sicrhau y gall unrhyw breswylydd sy’n gymwys i bleidleisio wneud hynny).
Rydym yn cysylltu â phob aelwyd yn Wrecsam, yn gofyn i chi wirio bod y manylion sydd gennym ar gyfer yr eiddo ar y gofrestr etholiadol yn gywir.
Newidiadau yn y drefn ganfasio flynyddol a phwy all gofrestru i bleidleisio
Rydym yn awr yn cymharu manylion etholwyr sydd ar ein cofrestr â’r data sydd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae hynny’n ein helpu i ddod o hyd i gyfeiriadau lle mae pobl wedi symud i fyw a phenderfynu pa ohebiaeth i anfon i’r eiddo dan sylw.
Gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bellach bleidleisio yn Etholiadau'r Senedd ac mewn Etholiadau Llywodraeth Leol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni nawr gofrestru pobl ifanc 14 a 15 oed. Os oes gennych unrhyw un sy'n byw yn eich eiddo sy'n 14 oed neu'n hŷn, gallant gael eu hychwanegu at y gofrestr etholiadol fel y gallant bleidleisio yn yr etholiadau hyn pan fyddant yn troi'n 16 oed.
Gall pob gwladolyn tramor (sy'n byw yn gyfreithlon yng Nghymru) hefyd bleidleisio yn Etholiadau'r Senedd ac mewn Etholiadau Llywodraeth Leol. Yn flaenorol, dim ond dinasyddion Prydeinig, Gwyddelig, y Gymanwlad neu'r UE oedd â’r hawl. Mae hyn yn golygu, os ydych chi'n dod o wlad heblaw’r rhain, y gallwch chi nawr bleidleisio yn yr etholiadau hyn.