Gallwch bleidleisio mewn etholiad mewn un o dair ffordd (bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio gyntaf).
Pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio
Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio, byddwch yn cael cerdyn pleidleisio tua mis cyn dyddiad yr etholiad.
Ar ddiwrnod yr etholiad, ewch i’r orsaf bleidleisio a nodwyd ar eich cerdyn pleidleisio, unrhyw amser rhwng 7am a 10pm.
Gofynnir i chi gadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad, neu gallwch gyflwyno eich cerdyn pleidleisio. Er nid ydych angen eich cerdyn pleidleisio, felly peidiwch â phoeni os ydych yn ei golli neu'n ei anghofio.
Byddwch yn cael papur pleidleisio. Rhowch 'X’ wrth ymyl enw’r ymgeisydd rydych yn dymuno pleidleisio amdano. Peidiwch â rhoi unrhyw farciau eraill ar y papur pleidleisio, neu efallai na fydd eich pleidlais yn cael ei chyfrif.
Pleidleisio trwy'r post
Gall unrhyw un sydd wedi cofrestru i bleidleisio ofyn am gael pleidleisio trwy'r post, yn hytrach na mynd i orsaf bleidleisio.
Os ydych yn dymuno pleidleisio trwy'r post bydd angen i chi lenwi ffurflen gais. Mae hon ar gael ar wefan Y Comisiwn Etholiadol.
Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen hon bydd angen i chi ei hargraffu a’i dychwelyd atom i’r cyfeiriad canlynol: Gwasanaethau Etholiadol, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY.
Os nad oes gennych argraffydd, yna gallwch e-bostio electoral@wrexham.gov.uk i ofyn i ni bostio ffurflen gais atoch.
Pleidleisio drwy ddirprwy
Mae pleidlais drwy ddirprwy yn golygu eich bod yn dewis rhywun i bleidleisio ar eich rhan os nad ydych yn gallu pleidleisio eich hun.
Gall unrhyw un sydd wedi cofrestru i bleidleisio ofyn am bleidleisio drwy ddirprwy (ond bydd angen i chi roi rheswm pam na allwch gyrraedd gorsaf bleidleisio eich hun). Os ydych yn dymuno pleidleisio drwy ddirprwy bydd angen i chi lenwi ffurflen gais. Mae hon ar gael ar wefan Y Comisiwn Etholiadol.
Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen hon bydd angen i chi ei hargraffu a’i dychwelyd atom i’r cyfeiriad canlynol: Gwasanaethau Etholiadol, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY.
Os nad oes gennych argraffydd, yna gallwch e-bostio i ofyn i ni bostio ffurflen gais atoch.