Mae Cynghorwyr, a adnabyddir hefyd fel aelodau etholedig, yn rhan bwysig o ddemocratiaeth leol.Maent yn cael eu hethol i wasanaethu ward (ardal benodol neu gymuned yn Wrecsam).

I fod yn gynghorydd effeithiol mae angen ymrwymiad amser; maent yn gyfrifol am gefnogi cyfathrebu rhwng pobl leol a’r cyngor.

Swyddogaeth cynghorwyr

Disgwylir i bob cynghorydd:

Gynrychioli a chefnogi cymunedau

Mae hyn yn cynnwys:

  • cynrychioli buddiannau eu ward 
  • cynrychioli'r cyngor yn y ward a'r cymunedau a wasanaethant
  • cyfathrebu gyda'r gymuned ar strategaethau, polisïau, gwasanaethau a gweithdrefnau’r cyngor
  • cynrychioli etholwyr unigol a sefydliadau lleol, gwneud gwaith achos ar eu rhan a gwasanaethu pawb yn deg ac yn gyfartal
  • gweithio gydag aelodau gweithredol, aelodau eraill o’r cyngor, swyddogion y cyngor a sefydliadau partner i sicrhau fod anghenion y cymunedau lleol yn cael eu hadnabod, eu deall a’u hystyried
  • hyrwyddo goddefgarwch a chydlyniant mewn cymunedau lleol

Gwneud penderfyniadau a goruchwylio perfformiad y cyngor

Mae hyn yn cynnwys:

  • cymryd rhan mewn cyfarfodydd y Cyngor Llawn, gwneud penderfyniadau gwybodus a chytbwys, a goruchwylio perfformiad 
  • cymryd rhan wrth wneud penderfyniadau gwybodus a chytbwys ar bwyllgorau a phaneli y maent wedi eu penodi arnynt
  • dilyn egwyddorion democratiaeth a chydgyfrifoldeb wrth wneud penderfyniadau
  • hyrwyddo a sicrhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yn narpariaeth y cyngor a gwasanaethau cyhoeddus eraill

Cynrychioli’r cyngor (yn amodol ar benodiad)

Mae hyn yn cynnwys:

  • cynrychioli’r cyngor ar gyrff allanol lleol fel penodai y cyngor
  • cynrychioli’r cyngor ar gyrff partneriaeth lleol, hyrwyddo buddiannau cyffredin a chydweithrediad cyd-fuddiant
  • cynrychioli a bod yn eiriolwr i’r cyngor ar gyrff cenedlaethol ac mewn digwyddiadau cenedlaethol

Cynnal llywodraethu mewnol, safonau moesol a pherthnasau

Mae hyn yn cynnwys:

  • hyrwyddo a chefnogi llywodraethu da’r cyngor a’i faterion
  • darparu arweinyddiaeth gymunedol a hyrwyddo dinasyddiaeth weithgar
  • hyrwyddo a chefnogi llywodraeth agored a thryloyw
  • cefnogi a chadw at berthynas barchus, briodol ac effeithiol gyda gweithwyr y Cyngor
  • dilyn Cod Ymddygiad yr Aelodau, Protocol Aelodau/Swyddogion, holl godau a phrotocolau eraill a fabwysiadwyd a’r safonau uchaf o ymddygiad mewn swydd gyhoeddus

Cymryd rhan mewn datblygiad personol a datblygiad swyddogaeth

Mae hyn yn golygu cymryd rhan mewn cyfleoedd datblygiad a hyfforddiant a ddarperir i aelodau gan yr awdurdod.

Darganfod mwy yn y Cyfansoddiad

Mae Adran 13 y Cyfansoddiad yn rhoi crynodeb o bwy sy’n gyfrifol am wneud amrywiol benderfyniadau yn y cyngor. Mae Adran 24 y Cyfansoddiad yn cynnwys swydd ddisgrifiadau penodol pellach (gan y gall cynghorwyr gael eu penodi i bwyllgorau penodol yn ogystal â bod yn rhan o’r Cyngor Llawn).

I  lywio’r cyfansoddiad dewiswch enw’r adran berthnasol o'r rhestr gynnwys ar y cychwyn i neidio i'r rhan honno o'r ddogfen.