Priodas

Gwirio a ydych chi’n gallu priodi (yn cynnwys gofynion oedran)

Er mwyn priodi yng Nghymru mae'n rhaid i'r ddau ohonoch chi fod dros un ar bymtheg oed, nad ydych chi’n perthyn i'ch gilydd ac nad ydych chi mewn partneriaeth sifil neu’n briod yn barod.

Os bydd y naill neu'r llall ohonoch chi dan ddeunaw oed ar ddyddiad y seremoni, yna mae angen caniatâd rhiant neu lys arnoch chi. Cysylltwch â'n swyddfa gofrestru i siarad â'r cofrestrydd priodasau i gael cyngor yn yr amgylchiadau hyn.

Mae Deddf Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Isafswm Oedran) 2022 i fod i ddod i rym ddydd Llun, 27 Chwefror, 2023. Bydd yn golygu na fydd unigolion 16 i 17 oed bellach yn gallu priodi neu ffurfio partneriaeth sifil dan unrhyw amgylchiadau, yn cynnwys ar ôl cael caniatâd gan riant neu lys. Ni fydd yn bosibl i unrhyw un dan 18 oed briodi neu ffurfio partneriaeth sifil ar ôl y dyddiad hwn.

Gall cyplau o’r un rhyw drosi partneriaeth sifil i briodas yng Nghymru neu Loegr. Os ydych chi’n ystyried trosi eich partneriaeth sifil gallwch chi anfon e-bost at ceremonies@wrexham.gov.uk i drafod hyn ymhellach.

Priodas sifil

Mae seremoni priodas sifil yn seremoni briodas anghrefyddol a gydnabyddir yn gyfreithiol.

Priodas grefyddol

Os ydych chi am briodi yn yr Eglwys yng Nghymru neu Loegr, neu mewn unrhyw eglwys neu adeilad crefyddol arall, bydd yn rhaid i chi gael seremoni briodas grefyddol.

Partneriaeth sifil

Mae partneriaeth sifil yn galluogi cyplau (o’r un rhyw ac o ryw wahanol) gael cydnabyddiaeth ffurfiol a chyfreithiol o’u perthynas.

Bydd gan gyplau sydd wedi’u huno gan bartneriaeth sifil statws cyfreithiol newydd a’r un hawliau â chyplau priod (ar gyfer pensiynau, treth a thollau marwolaeth).

Gwirio a ydych chi’n gallu ffurfio partneriaeth sifil (yn cynnwys gofynion oedran)

Er mwyn ffurfio partneriaeth sifil yng Nghymru mae'n rhaid i'r ddau ohonoch chi fod dros un ar bymtheg oed, nad ydych chi’n perthyn i'ch gilydd ac nad ydych chi mewn partneriaeth sifil neu’n briod yn barod.

Os bydd y naill neu'r llall ohonoch chi dan ddeunaw oed ar ddyddiad y seremoni, yna mae angen caniatâd rhiant neu lys arnoch chi. Cysylltwch â'n swyddfa gofrestru i siarad â'r cofrestrydd partneriaethau sifil i gael cyngor yn yr amgylchiadau hyn.

Mae Deddf Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Isafswm Oedran) 2022 i fod i ddod i rym ddydd Llun, 27 Chwefror, 2023. Bydd yn golygu na fydd unigolion 16 i 17 oed bellach yn gallu priodi neu ffurfio partneriaeth sifil dan unrhyw amgylchiadau, yn cynnwys ar ôl cael caniatâd gan riant neu lys. Ni fydd yn bosibl i unrhyw un dan 18 oed briodi neu ffurfio partneriaeth sifil ar ôl y dyddiad hwn.

Priodi dramor

Os ydych chi’n ddinesydd Prydeinig sy’n priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil dramor, efallai y bydd angen rhai dogfennau gan lywodraeth y DU arnoch chi. Gallwch chi ddarganfod sut i gael y dogfennau sydd eu hangen arnoch chi drwy’r ddolen ganlynol.