Ein hystafelloedd

Y swyddfa gofrestru

Mae hon yn ystafell fach y mae digon o le ar gyfer y cwpwl a dau dyst. 

Ystafell y Seremoni

Hon yw ein hystafell fwy y mae digon o le i 56 o westeion eistedd ynddi.  

Image
Ewch i oriel luniau yr ystafell seremonïau

Tystion

Mae angen dau dyst yn ôl y gyfraith a gallan nhw fod yn ffrindiau neu'n berthnasau.

Dylai pob tyst fod yn 16 oed neu’n hŷn.  Mae’n bosib i bobl iau fod yn dystion ond byddai’n rhaid i’r cofrestrydd gytuno â hyn cyn cynnal y seremoni (cysylltwch â’n swyddfa gofrestru).  

Mae’n rhaid i dystion fod yn bresennol drwy gydol y seremoni ac mae’n rhaid iddyn nhw ddeall yr iaith sy’n cael ei defnyddio yn y seremoni. 

Mae seremonïau fel arfer yn cael eu cynnal yn Saesneg, fodd bynnag, gan fod Wrecsam yn Ardal Gofrestru Gymraeg, mae’n bosib i chi ddewis cynnal y seremoni yn Gymraeg. Yn yr achos hwn, byddai’n rhaid i’ch tystion ddeall Cymraeg.

Os nad ydych chi na’ch partner yn gallu siarad Cymraeg na Saesneg, mae’n rhaid i un o’ch tystion allu dehongli’r seremoni yn gywir i chi.

Mae hwn yn ofyniad cyfreithlon oherwydd mae’n rhaid i chi ddeall y cytundeb yr ydych chi’n ymrwymo iddo dan gyfreithiau partneriaeth sifil y wlad hon.

Cyrraedd y swyddfa gofrestru

Trefnwch eich bod chi’n cyrraedd gyda'ch gwesteion o leiaf 15-20 munud cyn yr amser y mae disgwyl i’r seremoni ddechrau. 

Pan fyddwch chi’n cyrraedd, byddwch chi’n cael eich arwain i’r ardal aros. 

Dylech chi ganiatáu digon o amser rhag ofn y bydd oedi i draffig a chofiwch nad oes modd i ni ohirio dechrau'r seremoni ar gyfer unrhyw hwyrddyfodiaid.

Parcio

Does dim lle parcio i westeion yn Neuadd y Dref. Felly, gallwch chi gyfeirio eich gwesteion i’r maes parcio ‘talu ac arddangos’ cyfagos ger Llyfrgell Wrecsam/Llwyn Isaf.

Mae dau le parcio anabl hefyd ar gael o flaen Neuadd y Dref ar gyfer unigolion â Bathodyn Glas.

Noder efallai y bydd angen i yrrwyr ddefnyddio’r intercom wrth ymyl clwyd maes parcio uchaf Neuadd y Dref  i ddefnyddio’r ardal o flaen Neuadd y Dref.

Y seremoni partneriaeth sifil yn y swyddfa gofrestru

Bydd eich seremoni yn ein swyddfa gofrestru yn dechrau â chroeso a chyflwyniad gan y cofrestrydd partneriaethau sifil. Byddan nhw’n egluro y byddwch chi’n gwneud datganiad cyhoeddus a ffurfiol o’ch cariad at eich gilydd ac addewid o ymrwymiad i’ch gilydd am weddill eich oes. 

Dewisiadau seremonïau personol

Mae’n bosib i chi gyfnewid modrwy/modrwyau neu roddion a chynnwys darlleniadau, barddoniaeth a cherddoriaeth yn rhan o’ch seremoni os ydych chi’n dymuno.

Gallwch chi gael cerddoriaeth yn chwarae cyn dechrau’r seremoni ac yn ystod llofnodi’r atodlen  (rydym ni’n cynnig seinydd Bluetooth y gallwch chi gysylltu iddo i wneud hyn).

Noder, dan y Ddeddf Partneriaethau Sifil, ni chaniateir darlleniadau na cherddoriaeth grefyddol mewn seremoni partneriaeth sifil.

Weithiau mae cyplau’n gofyn am gael llun o aelod o’r teulu sydd wedi marw yn y seremoni, ac rydym ni’n caniatáu hyn. 

Ar ôl cyfnewid addunedau

Gallwch chi a’ch tystion lofnodi’r atodlen ar yr adeg hon. Pan fydd hyn wedi’i wneud bydd y cofrestrydd partneriaethau sifil yn cyhoeddi eich bod chi’n bartneriaid sifil dan y gyfraith. Mae croeso i chi dynnu lluniau ar ddiwedd y seremoni. 

Partneriaeth sifil heb seremoni

Mae cofrestru partneriaeth sifil fel arfer yn syml iawn. Os ydych chi’n dymuno, gallwch chi lofnodi'r atodlen ym mhresenoldeb eich dau dyst a chofrestrydd partneriaethau sifil, heb y seremoni. 

Noder nad yw cofrestru syml yn cynnwys unrhyw ddewisiadau seremonïau personol. 

Recordio fideo a chamerâu

Mae croeso i chi drefnu i weithredydd fideo a/neu ffotograffydd fod yn bresennol yn eich seremoni, ond mae’n rhaid iddyn nhw gadw at y rheolau y mae’r swyddogion cofrestru sydd ar ddyletswydd ar y diwrnod yn eu nodi. 

Lluniau

Pan fydd yr holl ofynion cyfreithiol wedi’u cwblhau, bydd cyfle i dynnu lluniau, gan gynnwys y llun 'smalio arwyddo’r gofrestr' traddodiadol.

Gallwch chi hefyd gael lluniau wedi’u tynnu y tu allan i flaen Neuadd y Dref ar Lwyn Isaf a’r Bandstand, os ydych chi’n dymuno. 

Conffeti

Noder ein bod ni’n caniatáu conffeti y tu allan ond gofynnwn eich bod chi’n dewis math bioddiraddadwy - dylech chi osgoi plastig a ffoil.  Rydym ni’n argymell eich bod chi’n defnyddio conffeti naturiol wedi’i wneud o flodau neu berlysiau.