Os ydych chi’n bwriadu priodi neu ffurfio partneriaeth sifil mae’n rhaid i chi lofnodi datganiad cyfreithiol yn eich swyddfa gofrestru leol. Caiff hwn ei alw’n ‘cyflwyno hysbysiad’.

Mae’n bwysig eich bod chi’n cytuno ar ddyddiad ac amser eich seremoni â’n gwasanaeth cofrestru a/neu eich lleoliad dewisol cyn gwneud unrhyw drefniadau eraill. 

Ble ddylwn i gyflwyno hysbysiad

Er mwyn cyflwyno hysbysiad, mae’n rhaid bod y ddau ohonoch chi wedi byw yn eich ardal gofrestru am o leiaf 7 diwrnod llawn cyn cyflwyno hysbysiad.

Os ydych chi’n byw yn yr un ardal, gallwch chi gyflwyno hysbysiad gyda’ch gilydd (yn eich swyddfa gofrestru leol). Os ydych chi’n byw mewn gwahanol ardaloedd, bydd yn rhaid i’r ddau ohonoch chi gyflwyno hysbysiad ar wahân yn eich ardaloedd eich hunain.

Ffi

Bydd angen i chi dalu ffi o £35 yr un i gyflwyno hysbysiad.

Am ba mor hir mae’n ddilys?

Pan fyddwch chi wedi cyflwyno hysbysiad mae’n ddilys am flwyddyn (12 mis), ond yn y lleoliad a nodir yn unig.

Newid lleoliad

Os ydych chi’n dymuno newid lleoliad eich seremoni yna mae’n rhaid i chi gyflwyno hysbysiad newydd. 

Oes modd i rywun arall gyflwyno hysbysiad ar eich rhan chi?

Na. Mae’n rhaid i chi a’r person yr ydych chi’n mynd i briodi/ffurfio partneriaeth sifil â nhw lofnodi’r datganiad.  

Cyflwyno dogfennau

Pan fyddwch chi’n cyflwyno hysbysiad, bydd gofyn i chi gyflwyno dogfennau penodol. Byddwn ni fel arfer yn dweud wrthych chi beth sydd angen eu cyflwyno pan fyddwch chi’n anfon e-bost at ein swyddfa gofrestru i wneud apwyntiad.

Bydd y dogfennau sydd angen i chi eu cyflwyno’n dibynnu ar eich amgylchiadau, ond mae’n bosib y byddan nhw’n cynnwys:

  • Tystysgrif geni llawn (yn dangos manylion rhieni)
  • Pasbort dilys
  • Trwydded yrru 
  • Llythyr â dyddiad diweddar a’ch cyfeiriad chi arno gan fanc neu gwmni cyfleustodau 
  • Archddyfarniad absoliwt gwreiddiol â stamp y llys arno
  • Dogfennau ysgariad tramor â chyfieithiad Saesneg ardystiedig  
  • Tystysgrif o ddiddymiad partneriaeth sifil
  • Tystysgrif marwolaeth cyn-ŵr neu wraig neu gyn-bartner sifil 
  • Tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil gŵr neu wraig neu bartner sifil 
  • Gweithred newid enw neu ddatganiad statudol os ydych chi wedi newid eich enw
  • Cod rhannu’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, os yw’n berthnasol 

Dogfennau gwreiddiol yn unig a dderbynnir ac os ydyn nhw mewn iaith dramor, bydd angen i chi gyflwyno cyfieithiad Saesneg ardystiedig.

Os yw'r naill neu'r llall ohonoch chi’n destun rheolaeth fewnfudo, efallai y bydd rheolau arbennig yn berthnasol. Gwiriwch y wybodaeth ar gyfer ‘Os ydych chi neu’ch partner o du allan y DU’ drwy’r ddolen ganlynol:

Os oes angen rhagor o arweiniad arnoch chi gallwch chi gysylltu â’r swyddfa gofrestru.