Yr Eglwys yng Nghymru neu Loegr

Os ydych chi’n bwriadu priodi yn yr Eglwys yng Nghymru neu Loegr bydd angen i chi siarad â ficer eich eglwys blwyf leol.

Os yw'r ficer yn gallu eich priodi chi bydd yn trefnu i'r Gostegion gael eu darllen dri dydd Sul cyn diwrnod eich seremoni, neu i drwydded gyffredin gael ei rhoi. 

Bydd y briodas yn cael ei chofrestru gan y ficer ac fel arfer nid oes angen cynnwys ein gwasanaeth cofrestru.  

Unrhyw eglwys neu adeilad crefyddol arall

Os ydych chi’n bwriadu priodi mewn unrhyw eglwys neu adeilad crefyddol arall bydd angen i chi gyflwyno hysbysiad o briodas yn swyddfa gofrestru'r ardal yr ydych chi’n byw ynddi. 

Fel arfer mae'n rhaid i'r eglwys neu'r adeilad crefyddol fod yn yr ardal gofrestru yr ydych chi neu'ch partner yn byw. Dim ond os yw'r naill neu'r llall ohonoch chi fel arfer yn mynd i addoli yno y cewch briodi mewn eglwys mewn ardal wahanol i ble’r ydych chi’ch dau’n byw.

Cewch hefyd briodi mewn ardal arall os nad oes unrhyw adeilad neu grefydd yn yr ardal ble’r ydych chi neu'r person yr ydych chi'n ei briodi yn byw. 

Ar gyfer rhai eglwysi mae’n bosib y bydd angen i chi wneud eich trefniadau eich hun i gael cofrestrydd yn bresennol yn y briodas, tra bod gan rai eu cofrestrydd eu hunain (person awdurdodedig). Os oes angen cofrestrydd arnoch chi i ddod i'ch priodas, dylech chi drefnu hyn gyda ni mor fuan â phosibl ymlaen llaw (cysylltwch â'n swyddfa gofrestru).

Gellir ffurfio partneriaethau sifil mewn adeilad crefyddol yn awr os yw’r safle wedi’i gymeradwyo gan yr awdurdod lleol (gwiriwch safleoedd wedi’u cymeradwyo yn Wrecsam).