Ein hystafelloedd

Y swyddfa gofrestru

Mae hon yn ystafell fach y mae digon o le ar gyfer y cwpwl a dau dyst. 

Ystafell y Seremoni

Hon yw ein hystafell fwy y mae digon o le i 56 o westeion eistedd ynddi.  

Image
Ewch i oriel luniau yr ystafell seremonïau

Gallwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth am brisiau ein hystafelloedd ar ein tudalen ‘trefnu cofrestrydd ar gyfer eich seremoni’.

Talu am dystysgrif

Gofynnwn i daliadau am dystysgrifau gael eu gwneud ar yr un adeg â ffi seremoni’r cofrestrydd (ni fyddwn yn trafod hyn gyda chi nes byddwch wedi rhoi eich hysbysiad cyfreithiol).

Gallwch dalu am dystysgrifau priodas ar gyfer seremonïau priodas sydd i ddod drwy ein e-siop, neu drwy ffonio 01978 298997 (cerdyn debyd neu gredyd) - y pris yw £11.  

Tystion

Mae angen dau dyst yn ôl y gyfraith a gallan nhw fod yn ffrindiau neu'n berthnasau. 

Dylai pob tyst fod yn 16 oed neu’n hŷn. Mae’n bosib i bobl iau fod yn dystion ond byddai’n rhaid i’r cofrestrydd gytuno â hyn cyn cynnal y seremoni (cysylltwch â’n swyddfa gofrestru).  

Mae’n rhaid i dystion fod yn bresennol drwy gydol y seremoni ac mae’n rhaid iddyn nhw ddeall yr iaith sy’n cael ei defnyddio yn y seremoni. 

Mae seremonïau fel arfer yn cael eu cynnal yn Saesneg, fodd bynnag, gan fod Wrecsam yn Ardal Gofrestru Gymraeg, mae’n bosib i chi ddewis cynnal y seremoni yn Gymraeg. Yn yr achos hwn, byddai’n rhaid i’ch tystion ddeall Cymraeg.

Os nad ydych chi na’ch partner yn gallu siarad Cymraeg na Saesneg, mae’n rhaid i un o’ch tystion allu dehongli’r seremoni yn gywir i chi.

Mae hwn yn ofyniad cyfreithlon oherwydd mae’n rhaid i chi ddeall y cytundeb yr ydych chi’n ymrwymo iddo dan gyfreithiau priodas y wlad hon.

Cyrraedd y swyddfa gofrestru

Trefnwch eich bod chi’n cyrraedd gyda'ch gwesteion o leiaf 15-20 munud cyn yr amser y mae disgwyl i’r seremoni ddechrau. 

Pan fyddwch chi’n cyrraedd, byddwch chi’n cael eich arwain i’r ardal aros. 

Dylech chi ganiatáu digon o amser rhag ofn y bydd oedi i draffig a chofiwch nad oes modd i ni ohirio dechrau'r seremoni ar gyfer unrhyw hwyrddyfodiaid.

Parcio

Does dim lle  parcio i westeion yn Neuadd y Dref. Felly, gallwch chi gyfeirio eich gwesteion i’r maes parcio ‘talu ac arddangos’ cyfagos ger Llyfrgell Wrecsam/Llwyn Isaf.

Dylid gofyn i yrrwr y car ‘priodasol’ ddod â’r car i fynedfa flaen Neuadd y Dref.

Mae dau le parcio anabl hefyd ar gael o flaen Neuadd y Dref ar gyfer unigolion â Bathodyn Glas. 

Noder efallai y bydd angen i yrrwyr ddefnyddio’r intercom wrth ymyl clwyd maes parcio uchaf Neuadd y Dref  i ddefnyddio’r ardal o flaen Neuadd y Dref.

Y seremoni briodasol yn y swyddfa gofrestru

Dyma ein seremoni sylfaenol y mae’n rhaid i chi ddweud yr addunedau statudol a llofnodi’r atodlen.

Y seremoni briodasol yn Ystafell y Seremoni

Fymryn cyn y seremoni, bydd y cofrestrydd yn cyfweld â’r ddau ohonoch chi’n breifat i gadarnhau’r manylion i gael eu cofnodi yn yr atodlen briodas.

Bydd y cofrestrydd arolygol yn croesawu eich gwesteion i’r briodas ac yna’n gofyn i chi’ch dau ailadrodd y ddau ddatganiad sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Bydd y cofrestrydd arolygol yn eich arwain chi drwy bopeth sydd angen i chi ei wneud a’i ddweud.  

Dewisiadau seremonïau personol

Mae’n bosib i chi gyfnewid modrwy/modrwyau neu roddion a chynnwys darlleniadau, barddoniaeth a cherddoriaeth yn rhan o’ch seremoni os ydych chi’n dymuno.

Gallwch chi gael cerddoriaeth yn chwarae cyn dechrau’r seremoni ac yn ystod llofnodi’r atodlen (mae gennym ni seinydd Bluetooth y gallwch chi gysylltu iddo i wneud hyn).

Noder, dan y Ddeddf Priodasau, ni chaniateir darlleniadau na cherddoriaeth grefyddol mewn seremoni sifil.

Mae llawer o gyplau’n dewis cynnwys cyfnewid modrwy/modrwyau yn rhan draddodiadol o'u seremoni briodas, ond nid yw hyn yn rhan hanfodol o'r seremoni.

Weithiau mae cyplau’n gofyn am gael llun o aelod o’r teulu sydd wedi marw yn y seremoni, ac rydym ni’n caniatáu hyn. 

Ar ôl gwneud y datganiadau

Bydd y cofrestrydd arolygol yn cyhoeddi eich bod chi wedi priodi ar yr adeg hon.  Byddwch chi a’ch tystion yn llofnodi’r atodlen ac yna gallwch chi dynnu lluniau. 

Recordio fideo a chamerâu

Mae croeso i chi drefnu i weithredydd fideo a/neu ffotograffydd fod yn bresennol yn eich seremoni, ond mae’n rhaid iddyn nhw gadw at y rheolau y mae’r swyddogion cofrestru sydd ar ddyletswydd ar y diwrnod yn eu nodi. 

Lluniau

Pan fydd yr holl ofynion cyfreithiol wedi’u cwblhau, bydd cyfle i dynnu lluniau, gan gynnwys y llun 'smalio arwyddo’r gofrestr' traddodiadol.

Gallwch chi hefyd gael lluniau wedi’u tynnu y tu allan i flaen Neuadd y Dref ar Lwyn Isaf a’r Bandstand, os ydych chi’n dymuno. 

Conffeti

Noder ein bod ni’n caniatáu conffeti y tu allan ond gofynnwn eich bod chi’n dewis math bioddiraddadwy - dylech chi osgoi plastig a ffoil. Rydym ni’n argymell eich bod chi’n defnyddio conffeti naturiol wedi’i wneud o flodau neu berlysiau.