Byddwch angen ymweld â’n swyddfa gofrestru yn bersonol er mwyn cofrestru marwolaeth, ffoniwch 01978 298997 i wneud apwyntiad.
Gallwch gofrestru marwolaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg (gofynnir am eich dewis iaith pan fyddwch yn cysylltu â ni).
Ym mhle allaf gofrestru marwolaeth?
Rhaid cofrestru marwolaethau sy’n digwydd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam yn swyddfa gofrestru Wrecsam (yn Neuadd y Dref) trwy apwyntiad.
Cofrestru marwolaeth trwy ddatganiad
Os nad ydych yn gallu dod i swyddfa gofrestru Wrecsam gallwch wneud apwyntiad i fynd i unrhyw swyddfa gofrestru yng Nghymru neu Loegr i gofrestru’r farwolaeth trwy ddatganiad.
Pan fyddwch yn cofrestru marwolaeth trwy ddatganiad bydd y cofrestrydd yn cofnodi’r manylion ac anfon eich datganiad wedi ei lofnodi at y cofrestrydd yn yr ardal ble ddigwyddodd y farwolaeth.
Yn anffodus gallai cofrestru marwolaeth yn y ffordd hon achosi oedi i’r angladd. Mae hyn oherwydd bydd y dogfennau angenrheidiol yn cael eu hanfon atoch trwy’r post yn hytrach na’u cyflwyno wyneb yn wyneb yn y swyddfa gofrestru.
Fe’ch cynghorwn i drafod trefniadau gyda’ch trefnydd angladdau a staff ein swyddfa gofrestru i osgoi unrhyw oedi annisgwyl.
Pwy all gofrestru marwolaeth?
- Perthynas i’r ymadawedig.
- Rhywun a oedd yn bresennol yn ystod y farwolaeth.
- Perchennog neu reolwr yr ysbyty neu gartref preswyl ble ddigwyddodd y farwolaeth.
Gwybodaeth sydd angen i chi ei darparu i gofrestru marwolaeth
- Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
- Dyddiad a man geni’r ymadawedig
- Enw llawn yr ymadawedig, gan gynnwys cyfenw cyn priodi os yw’n berthnasol
- Cyfeiriad cartref a galwedigaeth yr ymadawedig
- Enw llawn, dyddiad geni a galwedigaeth priod yr ymadawedig (os yw’n berthnasol)
- Eich enw llawn a’ch cyfeiriad (fel yr unigolyn sy’n cofrestru’r farwolaeth)
- Cerdyn Meddygol GIG neu rif GIG (os yw ar gael)
- Cadarnhad os oedd yr ymadawedig yn cael pensiwn neu lwfans gan adran y llywodraeth (er enghraifft y Gwasanaeth Sifil, GIG neu Bensiwn Athro)
I helpu i sicrhau fod y wybodaeth a gofnodir yn gywir byddai’n ddefnyddiol (ond nid yn hanfodol) pe baech yn dod a dogfennau ategol ar gyfer yr ymadawedig gyda chi, er enghraifft:
- Pasbort
- Trwydded yrru
- Bil cyfleustodau
- Tystysgrifau genedigaeth a phriodas
Pa ddogfennau fydd y cofrestrydd yn eu rhoi i chi
- Llythyr yn cadarnhau fod yr holl adrannau wedi eu hysbysu (dim ond os ydych wedi defnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith).
- Copi ardystiedig o’r cofnod marwolaeth (tystysgrif o farwolaeth) - mae ffi o £11 ar gyfer y tystysgrifau hyn (gellir hefyd ofyn am gopi yn y dyfodol).
Bydd y cofrestrydd hefyd yn sganio ac anfon y ffurflen werdd (tystysgrif ar gyfer claddu neu amlosgiad) at y trefnydd angladdau, os nad yw’r crwner eisoes wedi cyhoeddi’r ddogfen).