Gallwch archebu copïau o dystysgrifau ar gyfer genedigaethau, marwolaethau a phriodasau a ddigwyddodd yn ardal Wrecsam at y dibenion canlynol:
- Ariannol (gan gynnwys hawliad budd-daliad)
- Cyfreithiol (profiant)
- Cais am basbort (o fewn y 6 mis nesaf)
- Cyflogaeth (cyflogaeth newydd/Gwiriad GDG)
Cost y dystysgrif yw £12.50 yr un.
Ffoniwch 01978 298997
Archddyfarniadau ysgariad
Gallwch gael copi o’ch papurau ysgariad gan y llys lle proseswyd yr ysgariad.
Os digwyddodd eich ysgariad yn Wrecsam, gallwch ofyn am gopi o'r archddyfarniad absoliwt oddi wrth:
Llys Sirol Wrecsam
Llys yr Ynadon
Wrecsam
LL12 7BP
Rhif Ffôn: 01978 317400
Os digwyddodd eich ysgariad y tu allan i Wrecsam, gallwch ofyn am gopi o'r archddyfarniad absoliwt oddi wrth:
Cofnodion Ysgariad Cenedlaethol
First Avenue
42-49 High Holborn
Llundain
WC1V 6NP
Rhif Ffôn: 020 7947 6051