Mae Amlosgfa Pentrebychan ger Wrecsam yn cynnal tua 1700 o wasanaethau bob blwyddyn.

Mae tir y safle yn ymestyn am 40 erw ac maent ar agor i ymwelwyr 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae pedair gardd goffa yn cynnig ardal heddychlon i deuluoedd sy’n dewis gwasgaru llwch eu hanwyliaid yn yr amlosgfa.

Mae nifer o ddewisiadau coffáu ar gael i’r rhai sy’n dymuno bod â chanolbwynt er mwyn coffáu eu hanwyliaid hefyd.

Bob blwyddyn, byddwn yn cynnal Gwasanaeth Coffa i goffáu ffrindiau a theulu sydd wedi’u hamlosgi ym Mhentrebychan. Cynhelir y gwasanaeth hwn ym mis Gorffennaf fel arfer.

Oriau agor

Mae oriau agor safle’r amlosgfa yn amrywio gan ddibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn.

Caiff gatiau mynediad y safle eu cau 15 munud cyn yr amser cau swyddogol, fel bod staff yn gallu sicrhau bod yr adeiladau/eiddo yn ddiogel cyn cloi’r gatiau.

1 Ebrill i 31 Hydref

  • Dyddiau’r wythnos (heb gynnwys gwyliau’r banc): 9am - 6pm
  • Dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau’r banc: 10am - 6pm

1 Tachwedd i 31 Mawrth

  • Dyddiau’r wythnos (heb gynnwys gwyliau’r banc): 9am - 4pm
  • Dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau’r banc: 10am - 4pm

Amseroedd agor y swyddfa

  • Dydd Llun i ddydd Iau: 9am – 12.30pm a 1.30pm – 4.30pm
  • Dydd Gwener: 9am – 12.30pm a 1.30pm – 4pm

Mae’r swyddfa ar gau ar wyliau’r banc. 

Sylwch mai dim ond yn ystod amseroedd agor y swyddfa mae cyfleusterau’r toiled ar gael.

Cyfeiriad a chyfarwyddiadau

Amlosgfa Wrecsam
Pentrebychan
Wrecsam
LL14 4EP

Ar y ffordd

O’r A483, cymerwch y gyffordd am Johnstown, Rhosllanerchrugog a Rhostyllen.

Ar y gylchfan, cymerwch y troad am Johnstown. Cymerwch yr ail droad ar y dde ar Lôn yr Efail, lle gwelir arwydd am yr amlosgfa. O Lôn yr Efail, cymerwch y troad cyntaf ar y dde ar Ffordd Pentre Bychan. Bydd y amlosgfa ar y chwith.

Ar fws

Ewch ar wasanaeth bws rhif 4 neu 4B o Orsaf Fysiau Wrecsam. Mae’r ddau lwybr yn mynd heibio’r amlosgfa (gwiriwch yr amserlen fysiau i weld amseroedd).

Lleoliad

Gerddi

Mae dewis o bedair gardd ar gael i rai sy’n dymuno gwasgaru llwch eu hanwyliaid ar safle’r amlosgfa:

  • Yr Ardd Furiog – gardd ffurfiol o fewn waliau’r neuadd o’r 17eg ganrif.
  • Rhodfa’r Wisteria – wedi’i thirlunio mewn dyluniad modern, gyda gwelyau gerddi cerrig siâl yn ardaloedd glaswelltog y lawnt.
  • Pwll y Lilïau – wedi’i leoli yn y coetiroedd ac wedi’i amgylchynu gan goed urddasol ac aeddfed a lawntiau lle caiff y llwch ei wasgaru. Mae adar y dŵr a bywyd gwyllt arall ger Pwll y Lili i’w gweld yn y coetir cyfagos.
  • Dôl y Cennin Pedr – anffurfiol o ran natur, gyda chennin pedr, clychau’r gog, eirlys a blodau gwyllt eraill yn tyfu’n helaeth.

Caiff llwch eu gwasgaru ar ‘blotiau’ wedi’u rhifo ac mae modd eu canfod yn rhwydd.

Sylwch na chaniateir cŵn yn y capel na’r gerddi coffa (ac eithrio cŵn cymorth).

Capel yr Amlosgfa

Image
Y corau a’r ffenestri hir ar ochr chwith y capel

Mae gan y capel helaeth ffenestri hir ar un ochr, gan roi teimlad o olau a lle.

Mae lle i 120 o alarwyr eistedd, a lle ychwanegol i bobl sefyll.

Fel arfer, mae’r capel ar gael am gyfnodau 30 munud, a dewis personol fydd ar pa ffurf fydd y gwasanaeth angladd. Mae symbolau crefyddol ar gael pan fo angen, ac mae amseroedd estynedig ar gyfer gwasanaethau ar gael ar gais (bydd angen talu ffi ychwanegol ar gyfer hyn).

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau y gallwn eu darparu yn y capel ar dudalen ffioedd a thaliadau yr amlosgfa.

Mae system dolen clyw ar gael yn y capel.

Ar ôl y gwasanaeth, caiff teyrngedau ar ffurf blodau eu harddangos yn yr iard ger allanfa’r capel, ac mae croeso i’r teulu fynd â nhw os byddant yn dymuno.

Natur ar y safle

Mae'r mathau o anifeiliaid sy'n byw yn nhiroedd yr amlosgfa'n cynnwys crehyrod, moch daear, boncathod, nadroedd, hwyaid a thylluanod.

Mae'r tiroedd hefyd yn cynnwys un padog heb ei bori a gedwir fel dôl wyllt a choedardd (ardal bwrpasol ar gyfer coed).

Llyr y Cofio

Mae Llyfrau Cofio’r amlosgfa wedi’u cadw mewn ystafell ym mlaen prif adeilad y capel. Mae’r ystafell hon ar agor bob dydd o’r flwyddyn, gan gynnwys Dydd Nadolig.

Mae croeso i bobl ddewis eu geiriau eu hunain a gallant weld eu cofnod ar unrhyw adeg. Mae’n bosibl iddynt gael copi bach o’r llyfr a’u harysgrifiad hefyd.

Mae’r dewisiadau ar gyfer cofnodion mewn Llyfrau Cofio i’w gweld ar dudalen ffioedd a thaliadau yr amlosgfa.

Hanes yr Amlosgfa

Agorodd yr amlosgfa ym 1966, ar y safle lle’r oedd Neuadd Pentrebychan o’r blaen.

Credir bod y neuadd gyntaf ym Mhentrebychan wedi’i hadeiladu ar ddechrau’r 17eg ganrif gan Hugh Meredith o Wrecsam. Mae’r teulu wedi olrhain eu tras at Bleddyn ap Cynfyn, Tywysog Powys. Disgrifiwyd y neuadd a’r ystâd fel y rhai mwyaf helaeth yn yr ardal.

Mae llawer o’r enwau lleoedd Cymraeg a ddefnyddiwyd ar yr ystâd yn nyddiau’r Meredithiaid cynnar yn parhau hyd heddiw.

Safonau gwasanaeth a pherfformiad

Siarter y Galarwyr

Mae Gwasanaeth Mynwentydd ac Amlosgfa Wrecsam wedi mabwysiadu Siarter y Galarwyr ac mae’n aelod llofnodol ohono.

Mae Siarter y Galarwyr, a ffurfiwyd gan y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd yn mynd ati i ddiffinio’r safonau gofynnol ar gyfer gwasanaethau claddu ac amlosgi y gellir eu disgwyl gan ei awdurdodau sy’n aelodau.
Fel aelod, rydym yn ceisio darparu a chynnal lefel gwasanaeth sy’n cyrraedd y 33 ‘Hawl’ Siarter.

Bob blwyddyn mae awdurdodau sy’n aelodau yn cael eu hasesu yn erbyn ‘Hawliau’ y Siarter gan y Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd.

Cysylltu â ni

Ebost: crematorium@wrexham.gov.uk
Rhif ffôn: 01978 292050

Dolenni perthnasol