Mae mynwent Wrecsam ar Ffordd Rhiwabon, Wrecsam, ac yn gyfanswm o 7.2 hectar. 

Mae’r fynwent yn brif safle claddu ar gyfer Wrecsam. Mae 39,000 o gladdedigaethau wedi eu cynnal yn y fynwent ers iddi agor yn 1876, gyda thua 100 o gladdedigaethau nawr yn digwydd bob blwyddyn.  

Sylwer, nid oes unrhyw ‘feddi newydd’ yn y fynwent hon, dim ond ym mynwent Plas Acton ym Mhandy.

Oriau agor

Caiff giatiau mynediad Ffordd Rhiwabon eu cau a giatiau Ffordd Bersham eu cloi 15 munud cyn yr amser cau swyddogol, er mwyn i staff sicrhau bod yr adeiladau/eiddo yn ddiogel. Yna mae giatiau Ffordd Rhiwabon yn cael eu cloi ar yr amser cau swyddogol.

Mae oriau agor y fynwent yn amrywio yn dibynnu ar adeg y flwyddyn:

1 Ebrill i 31 Hydref

  • Dyddiau’r wythnos (heb gynnwys gwyliau banc): 10am - 6pm
  • Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gwyliau Banc: 10am - 6pm

1 Tachwedd i 31 Mawrth

  • Dyddiau’r wythnos (heb gynnwys gwyliau banc): 10am - 4pm
  • Dydd Sadwrn, Dydd Sul a Gwyliau Banc: 10am - 4pm

Cerbydau

Gall ymwelwyr barcio cerbydau ar gwrt blaen capel y fynwent yn ystod oriau agor.

Heblaw fel rhan o cortège angladd, ni chaniateir cerbydau modur ar dir y fynwent oni bai ein bod wedi rhoi caniatâd.

Pan ddisgwylir cortège angladd ar y safle, caniateir uchafswm o 5 cerbyd yn arddangos Bathodyn Glas.

Gofynnwn i yrwyr gadw at derfyn cyflymder o 5 mya.

Yswiriant Cerbydau

Byddwch yn ymwybodol efallai na fydd yswirwyr yn yswirio ar gyfer risg tra bod y cerbyd ar eiddo’r cyngor.

Trefniadau angladd

Fel arfer bydd y rhai sy’n gwneud trefniadau ar gyfer claddu anwyliaid yn gwneud hynny trwy wasanaethau trefnwr angladdau proffesiynol.

Fodd bynnag, os ydych yn dymuno gwneud trefniadau angladd preifat gallwch anfon e-bost at ein staff Amlosgfa a Mynwentydd i gael cyngor - ar crematorium@wrexham.gov.uk.

Hawliau Claddu

Gallwch brynu’r ‘hawl unigryw i gladdu’ i lain bedd gennym fel rhan o’r trefniadau angladd. Mae’r hawliau claddu am 99 mlynedd o’r dyddiad prynu.

Mae’r hawliau claddu ar gyfer y mathau canlynol o lain bedd ar gael:

  • Llain bedd maint llawn, ar gyfer claddu hyd at 3 unigolyn
  • Llain gweddillion amlosgiad, ar gyfer claddu hyd at 4 o weddillion amlosgiad.
  • Llain plentyn, ar gyfer claddu un plentyn.

Pan fydd y lleoedd claddu oedd ar gael wedi eu defnyddio ar lain gladdu maint llawn, bydd dal ar gael ar gyfer claddu gweddillion amlosgiad.

Mae’r hawl unigryw i gladdu mewn llain bedd yn cynnwys yr hawl i osod cofeb ar y bedd (yn amodol ar ein rheoliadau ar gyfer cofeb).  Bydd angen i chi ganfod saer maen sydd wedi cofrestru naill ai gyda Chymdeithas Genedlaethol Seiri Meini Coffa (NAMM) neu’r Gofrestr Brydeinig o Seiri Meini Coffa Achrededig (BRAMM) i osod cofeb a bydd angen iddynt gyflwyno cais am ganiatâd ar eich rhan.  

Gallwch chwilio am seiri maen cofrestredig ar y gwefannau canlynol:

Cyngor cofebion

Cyfrifoldeb perchennog

Mae gan berchnogion beddi gyfrifoldeb i sicrhau fod unrhyw gofeb neu eitem arall a roddir ar y bedd yn cydymffurfio â’r rheoliadau cofebau, ac nad yw’n creu perygl.

Yn arbennig, ni ddylai perchnogion beddi ddefnyddio cynwysyddion gwydr neu borslen a ellir eu torri neu amgáu arwyneb y bedd gyda pheryglon baglu a ellir eu torri’n hawdd (megis ffensys plastig neu bren).

Mae gennym gyfrifoldeb i leihau’r risg pan fo cofeb neu eitem arall ar fedd yn achosi perygl, oherwydd: 

  • ei gyflwr  
  • y deunyddiau a ddefnyddiwyd
  • y modd mae wedi ei wneud

Yn anffodus, mae hyn yn aml yn golygu os yw eitem yn achosi perygl bydd rhaid ei symud neu roi cofeb i orwedd ar arwyneb y bedd ble fydd yn achosi llai o berygl. 

Byddwn bob amser yn ceisio cysylltu â pherchnogion y cofebau i’w hysbysu o unrhyw gamau a gymerwyd a pham. Am y rheswm hwn, os ydych yn berchennog bedd, gofynnwn i chi ddweud wrthym os ydych yn newid eich cyfeiriad.

Dylunio a chynnal a chadw

Mae nifer o’r cofebau yn rhannau hynaf y fynwent yn enghreifftiau gwych o garegwaith, gyda cherfio ac addurniadau cywrain.

Yn y rhannau mwy newydd ar lawnt y fynwent, nid ydym yn gosod cyfyngiadau dylunio heblaw uchder a thrwch y garreg.

Mae cofeb garreg naturiol yn goffa parhaol, a fydd yn para am sawl cenhedlaeth os yw’n cael ei gosod yn gywir a’i chynnal a’i chadw’n rheolaidd.

Dylai bob cofeb gael eu gwneud a’u gosod gan saer maen cymwys sy’n gallu cynnig gwarant o’u gwaith. Os ydych yn berchennog bedd rydym yn argymell eich bod yn yswirio eich cofeb yn erbyn lladrad, colled, neu ddifrod.

Ar ôl ei gosod, dylid archwilio a glanhau’r gofeb o leiaf unwaith y flwyddyn. Efallai y bydd yr arysgrifau angen sylw bob 4 neu 5 mlynedd. Os ydych yn berchennog bedd rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’r cyflenwr cofeb am gyngor ar gynnal a chadw a glanhau.

Ymchwil i hanes teulu

Rydym yn cadw cofnod digidol o bob claddedigaeth ers 1876 i’r presennol yn swyddfa’r fynwent. Yn ystod oriau gwaith arferol, bydd ein staff mynwent yn ceisio eich helpu os ydych eisiau dod o hyd i fedd.

Ar gyfer ymchwil pellach, gallwch ofyn am fynediad at gofnodion a chofrestri gwreiddiol y fynwent - e-bost crematorium@wrexham.gov.uk i ofyn am apwyntiad gyda Gweithiwr Mynwent.

Beddi rhyfel

Mae dwy gofeb yn coffáu dinasyddion Wrecsam a fu farw o anafiadau yn gwasanaethu gyda lluoedd arfog Prydain a'r Gymanwlad. 

Mae yna hefyd adran ddynodedig a gynhelir ar ran Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn cynnwys beddau milwyr gwasanaethau unigol.

Yn ogystal, mae cofeb a leolir ger mynedfa'r fynwent yn coffáu'r nifer o filwyr gwasanaeth Pwylaidd sydd wedi eu claddu yn y fynwent ac a fu’n ymladd ochr yn ochr â lluoedd Prydain yn yr Ail Ryfel Byd.

Cynnal a chadw’r fynwent - sut y gallwch helpu

Nid ydym eisiau gosod cyfyngiadau diangen ar ddefnyddwyr y fynwent. Fodd bynnag, gofynnwn i berchnogion beddi ac ymwelwyr wneud y canlynol er budd pawb:

  • rhoi sbwriel ac unrhyw dorchau neu flodau dros ben, yn y biniau sydd wedi’u darparu 
  • cofio fod beddi yn yr holl ardaloedd gwyrdd (hyd yn oed os nad ydynt wedi eu marcio) - peidiwch â gadael i anifeiliaid anwes gwydro’n rhydd neu faeddu yn y fynwent. 
  • peidiwch â gadael i blant gerdded neu ddringo ar waith maen cofebau (mae nifer o gofebau y fynwent yn hen ac angen eu hatgyweirio o bosib). 
  • parchu anghenion ymwelwyr eraill ac osgoi gwneud sŵn diangen.

Swyddfa’r fynwent

Mae swyddfa’r fynwent ar lawr gwaelod Caban y Fynwent ger giatiau’r brif fynedfa ar Ffordd Rhiwabon, Wrecsam.

Mae Caban y Fynwent yn cael ei osod i denantiaid preifat nad ydynt wedi eu cyflogi yn y gwasanaeth mynwent - peidiwch â tharfu arnynt heblaw mewn argyfwng.

Cysylltwch â ni

Gallwch anfon e-bost at ein staff Amlosgfa a Mynwentydd ar crematorium@wrexham.gov.uk.

Ffôn: 01978 292048

Os nad yw’r staff ar gael i gymryd eich galwad, neu os gwneir eich galwad y tu allan i oriau gweithio arferol, bydd peiriant ateb yn recordio eich neges. Os ydych yn gadael eich enw a rhif ffôn, byddwn yn dychwelyd eich galwad cyn gynted â phosib.