Pan fydd rhywun yn marw, mae nifer o bethau sydd angen eu gwneud, yn ystod cyfnod lle nad ydych wir eisiau eu gwneud. Un o’r rhain yw cysylltu ag adrannau’r llywodraeth a gwasanaethau cyngor lleol.

Beth yw’r gwasanaeth ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’?

Pan fyddwch yn cofrestru marwolaeth yn ein swyddfa gofrestru gallwn gynnig gwasanaeth ychwanegol am ddim yn y gobaith o wneud pethau'n haws i chi. Mae’r gwasanaeth hwn yn golygu y gallwch ddweud wrthym ni a gallwn ninnau gysylltu â sefydliadau eraill ar eich rhan.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae nifer o sefydliadau y gallwn ni hysbysu. Mae hyn yn cynnwys adrannau o fewn Cyngor Wrecsam a sefydliadau eraill y llywodraeth megis yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a’r DVLA.

Gallwn eich cynorthwyo i roi gwybodaeth i’r Adran Gwaith a Phensiynau a gallent hwythau anfon y wybodaeth ymlaen i nifer o adrannau eraill y llywodraeth a gwasanaethau cyngor lleol i chi. 

Os ydych yn dymuno defnyddio’r gwasanaeth, byddwch angen gwneud hynny o fewn 28 diwrnod o gofrestru’r farwolaeth.

Gwybodaeth y byddwch angen ei darparu

Er mwyn ein galluogi ni i gynnal y gwasanaeth, byddwch angen dangos unrhyw basbort dilys, trwydded yrru ddilys, bathodyn glas dilys a Rhif Yswiriant Gwladol yr ymadawedig. 

Byddwch yn ymwybodol, os ydych yn gwneud cais am y gwasanaeth yn bersonol, wrth gofrestru marwolaeth yn ein swyddfa gofrestru byddwch angen darparu gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y cofrestriad marwolaeth.

Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am fanylion cyswllt ar gyfer: 

  • Y perthynas agosaf 
  • Gŵr, gwraig neu bartner sifil sy’n dal yn fyw 
  • Y person sy’n delio â’r ystâd 

Rhaid i chi gael caniatâd yr unigolion a restrir uchod os ydych am ddarparu eu gwybodaeth i ni.

Rhestr lawn o sefydliadau y gellir eu hysbysu

Yr Adran Gwaith a Phensiynau:

  • Gwasanaeth Pensiynau, Anabledd a Gofalwyr 
  • Canolfan Byd Gwaith 
  • Tîm Gofal Iechyd Tramor  

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
Yr Adran Cyllid a Thollau: 

  • Budd-dal Plant 
  • Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith 
  • Treth bersonol 
  • Swyddfa Basbort EM

Veterans UK: 

  • Cynllun Pensiynau Rhyfel

Cynghorydd Lleol: 

  • Bathodynnau Glas
  • Teithio’n rhatach
  • Tai Cyngor
  • Treth y Cyngor
  • Budd-dal Treth y Cyngor
  • Gwasanaeth Etholiadol
  • Budd-dal Tai
  • Llyfrgelloedd
  • Gwasanaethau Cymdeithasol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y gwasanaeth, cysylltwch â'n swyddfa gofrestru.