Adrodd am nam yn y maes parcio

Os ydych chi’n sylwi ar broblem mewn maes parcio sy’n eiddo i’r cyngor, gallwch adrodd am hyn gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. 

Adrodd rŵan

 

Gwneud cais am far-H

Mae marciau bar-H yn llinellau gwyn a roddir ar ffordd i annog gyrwyr eraill rhag rhwystro mynediad (er enghraifft dreif neu garej). Dim ond marc cynghorol yw hyn ac nid yw’n cario unrhyw bwys cyfreithiol. 

Y ffi ar gyfer bar-H yw £82 (neu am ddim os ydych yn yrrwr anabl gyda Bathodyn Glas). Byddwch ond angen talu’r ffi os caiff eich cais ei gymeradwyo.

Gallwch wneud cais am farc bar-H gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. 

Dechrau rŵan 

 

Cysylltu â’n tîm gwasanaethau parcio

E-bost: parking@wrexham.gov.uk