Rydym yn cynnig gwasanaeth ar gyfer cerbydau sydd angen parcio tu allan i eiddo er mwyn cwblhau gwaith neu ddanfon eitemau trwm.

Gwybodaeth am oddefebau llinellau melyn

Mae’r oddefeb yn caniatáu i bobl barcio ar linell felen sengl (neu mewn achosion arbennig, ar linellau melyn dwbl) os yw’r cerbyd angen cyflawni gwaith penodol, ac mae angen bod mor agos i’r eiddo â phosibl, ac nid oes gofod parcio amgen ar gael.

Yn gyffredinol ni ddylid eu defnyddio ar ardaloedd gyda gwaharddiad llwytho (a ddynodir gyda marciau ar gwrb y palmant).

Mae rhai ffyrdd yng nghanol tref Wrecsam sy’n destun cyfyngiad ‘mynediad yn unig’ sy’n golygu efallai y byddwch angen caniatâd gan yr heddlu i gael mynediad i ffordd benodol, yn ogystal â chaniatâd gennym ni.

Meini prawf cymhwyso

Gallwch fod yn gymwys am oddefeb os ydych yn disgyn i mewn i un o’r tri chategori canlynol:

  • Mae eich cerbyd yn rhy fawr i ffitio o fewn bae parcio arferol (er enghraifft trelar/generadur wedi’i atodi/cerbyd masnachol) ac mae angen i chi barcio mor agos â phosibl i’r eiddo ar linell melyn.
  • Rydych yn cyflawni un o’r mathau canlynol o waith neu’n delio ag un o’r sylweddau canlynol:
    • Yn cario neu’n tynnu boeler tar
    • Tynnu neu’n llwytho asbestos
    • Yn cario cemegau peryglus ar gyfer eu defnyddio ar yr eiddo 
    • Gosod gwydr/ffenestr lle mae rac wedi’i osod ar ochr y cerbyd
    • Chwythu tywod neu gyfwerth lle mae ceblau neu diwbiau yn rhedeg o’r cerbyd i’r wyneb neu du mewn i’r adeilad
    • Gweithdy symudol gydag offer wedi’i osod i lawr y cerbyd (megis offer weldio, generaduron neu gwasgwyr)
    • Delio ag offer toi neu ddraenio
  • Angladdau

Sut i ymgeisio

Bydd yn rhaid i chi ddarparu:

  • Manylion cyfeiriad llawn o le mae’r gwaith neu’r gwasanaeth yn cael ei gynnal
  • Rhif cofrestru’r cerbyd a ddefnyddir 
  • Disgrifiad o natur y gwaith neu wasanaeth
  • Dyddiad pan fyddwch angen y drwydded
  • Eich manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost neu bost)

Gallwch wneud cais am oddefeb parcio gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein:

Ymgeisiwch rŵan

Costau

  • 1 diwrnod - £20
  • hyd at 7 diwrnod - £35

Goddefebau parcio – amodau defnyddio

  1. Rhaid i’r oddefeb gael ei osod ar ffenestr flaen y cerbyd cymwys. Sicrhewch fod yr holl fanylion goddefeb yn gallu cael eu gweld yn glir o’r tu allan.
  2. Bydd yr oddefeb yn ddilys ond yn ystod yr amseroedd a’r dyddiadau a nodir ar yr oddefeb.
  3. Gall y cerbyd ond gael ei barcio ar linell felen sengl neu ddwbl ar y stryd a ddangosir ar y goddefeb ac nid yw’n ddilys mewn ardaloedd gyda gwaharddiad llwytho.
  4. Rhaid i’r cerbyd gael ei ail-leoli os gofynnir i chi wneud hynny gan swyddog gorfodi sifil neu swyddog dyletswydd Cyngor Wrecsam, swyddog Heddlu Gogledd Cymru neu Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu – hyd yn oed os oes gennych oddefeb. Bydd hyn ond yn digwydd mewn amgylchiadau lle mae mynediad brys neu lif traffig yn cael ei amharu.
  5. Nid ellir trosglwyddo’r oddefeb.
  6. Mae’r Cyngor yn cadw’r hawl i arolygu’r cerbyd drwy swyddog awdurdodedig neu asiant awdurdodedig y cyngor, ar adegau rhesymol ar gyfer dibenion dilysu gwaith a/neu ddilysrwydd yr oddefeb.