Parcio anabl ar y stryd

Nid yw’r cynllun Bathodyn Glas yn drwydded i barcio yn unrhyw le. Mae nifer o leoliadau nad allwch barcio o dan unrhyw amgylchiadau; gwiriwch y trefniadau parcio ar gyfer eich cyrchfan ymlaen llaw.

Yn gyffredinol mae’r cynllun yn caniatáu’r buddion parcio canlynol cyhyd â bod eich Bathodyn Glas dilys yn cael ei arddangos, gall ddeiliaid bathodyn:

  • barcio am ddim heb unrhyw gyfyngiad amser ar ofodau parcio ar y stryd gyda meteri parcio a ‘thalu ac arddangos’ oni bai fod gorchymyn traffig lleol yn nodi cyfyngiad amser ar gyfer deiliaid neu fathodynnau glas mewn grym
  • gael eu heithrio rhag cyfyngiadau amser parcio a weithredir ar ddefnyddwyr eraill
  • fel arfer barcio ar linellau melyn sengl neu ddwbl am hyd at dair awr yng Nghymru 

Canol tref Wrecsam – cyfyngiadau parcio i’r anabl ar y stryd

Gwahardd holl gerbydau

Ni ddylai cerbydau barcio ar y strydoedd neu rannau o’r strydoedd canlynol, yn ystod yr amseroedd canlynol:

  • Dydd Llun i ddydd Gwener 11.30am tan 5pm
  • Dydd Sadwrn  9.30am tan 5pm
  • Dydd Sul 1pm tan 5pm 

Mae hyn yn gymwys i holl gerbydau ac mae’n gyfyngiad cyfreithiol. Os ydych yn dewis anwybyddu hyn, byddwch yn torri’r gyfraith.

Stryt y Lampint

O bwynt 38 metr i’r gorllewin o’i gyffordd â Stryt Caer i’w gyffordd â Stryt y Frenhines.

Stryt y Frenhines

Ar ei hyd.

Stryt Henblas

Ar ei hyd.

Stryt Caer

O’i gyffordd â Stryt Siarl i’w gyffordd â Stryt Holt.

Stryt y Rhaglaw

O’i gyffordd â Hill Street i’w gyffordd â Stryt yr Hôb.

Stryt yr Hôb

Ar ei hyd.

Stryt Fawr

Mynediad ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas ar unrhyw adeg. Ni chaniateir parcio mewn ardaloedd llwytho, lle mae gwaharddiad llwytho (a ddynodir gan farciau ar y cwrb), neu yn y lôn fysiau ar ôl 9am neu cyn 3:30pm.

Parcio anabl ym meysydd parcio canol tref Cyngor Wrecsam

Mae gan fwyafrif o’n meysydd parcio ofodau parcio anabl dynodedig a gall unrhyw un gyda Bathodyn Glas dilys ddefnyddio’r rhain neu ofodau parcio ceir eraill.

Gall deiliaid Bathodynnau Glas barcio am ddim mewn unrhyw ofod.

Mae gan Shopmobility hefyd ei ofodau dynodedig ar gyfer defnydd cwsmeriaid Shopmobility.

Mae swyddogion gorfodi yn monitro’r defnydd o Fathodynnau Glas yn agos ac mae ganddynt yr hawl i gyflwyno rhybudd tâl cosb i unrhyw gerbyd nad ydynt yn arddangos bathodyn dilys yn gywir wrth ddefnyddio’r consesiwn parcio. Bydd tocyn hefyd yn cael ei gyflwyno i unrhyw gerbyd sydd wedi parcio mewn bae anabl dynodedig heb arddangos Bathodyn Glas, hyd yn oed gyda thocyn talu ac arddangos dilys.

Cofiwch nad yw’r rheol sy’n caniatáu deiliaid Bathodyn Glas i barcio ar linellau melyn ar y stryd yn gymwys i feysydd parcio sy’n eiddo i’r cyngor.
 

Dolenni perthnasol