Mae Bathodyn Glas yn caniatáu i bobl sydd yn anabl neu â chyflwr iechyd sy’n effeithio ar eu symudedd i barcio’n agosach at eu cyrchfan. Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas fel gyrrwr, teithiwr neu sefydliad.

Mae modd i chi adnewyddu neu wneud cais am Fathodyn Glas ar-lein drwy’r ddolen ar waelod y dudalen hon.

Mae hi’n rhad ac am ddim i gael Bathodynnau Glas neu i adnewyddu bathodyn.

Darllenwch y wybodaeth isod cyn cyflwyno eich cais, bydd hyn yn helpu i gyflymu’r broses.

Cymhwysedd

Ceisiadau awtomatig

Byddwch yn gymwys am Fathodyn Glas yn awtomatig os ydych chi:

  • Yn derbyn Lwfans Byw i'r Anabl (symudedd cyfradd uwch)
  • Yn derbyn Taliad Annibyniaeth Bersonol, y gofynion yw 8 pwynt neu fwy o dan y categori symud o gwmpas neu 12 pwynt o dan y categori cynllunio a dilyn siwrnai.
  • Yn derbyn atodiad symudedd Pensiynwyr Rhyfel
  • Yn derbyn taliadau Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • Wedi eich cofrestru’n ddall

Cofiwch sicrhau eich bod yn darparu llythyr cymhwysedd diweddar. Os ydych yn derbyn Taliadau Annibyniaeth Bersonol rydym yn gofyn am y llythyr llawn sy’n cynnwys y pwyntiau a ddyfarnwyd i chi.

Ceisiadau yn ôl disgresiwn

Os nad ydych chi’n gymwys o dan y meini prawf awtomatig, fe allech chi fod yn gymwys o dan y meini prawf ‘yn ôl disgresiwn’. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n penderfynu a ydych chi’n gymwys os allwch chi ddarparu digon o dystiolaeth.

Ar ôl i’ch cais gael ei gyflwyno, bydd yn cael ei arbed ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ategol rydych wedi eu darparu.

Er mwyn helpu i gyflymu'r broses, atodwch gymaint o dystiolaeth i’r cais â phosib , megis:

  • Llun o gymhorthion cerdded rydych yn eu defnyddio i roi cymorth gyda’ch symudedd
  • Llun o unrhyw addasiadau sydd ar waith yn eich eiddo (er enghraifft, rheiliau cydio, rampiau, grisiau wedi’u codi)
  • Tystiolaeth o unrhyw feddyginiaeth ar bresgripsiwn at ddibenion symudedd (dylai fod y presgripsiwn mwyaf diweddar a dylai gynnwys anadlwyr, chwistrellau GTN a nebiwlyddion os yw’n berthnasol)
  • Tystiolaeth o unrhyw asesiad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Tystiolaeth o Lwfans Gweini
  • Tystiolaeth o Lwfans Gofalwyr
  • Tystiolaeth o wasanaeth danfon bwyd, gwasanaethau gofal neu wasanaethau cefnogaeth ychwanegol, gan gynnwys teulu
  • Presgripsiwn ar gyfer defnyddio ocsigen neu brawf o’r nodyn danfon ar gyfer defnyddio ocsigen

Ceisiadau gwybyddol

Gall unigolyn fod yn gymwys dan y meini prawf gwybyddol yn ôl disgresiwn os nad ydyn nhw’n gallu cynllunio a dilyn unrhyw daith heb gymorth ac angen goruchwyliaeth gyson.

Mae amodau a allai fodloni'r meini prawf hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Awtistiaeth
  • Clefyd Alzheimer
  • Anafiadau i'r ymennydd
  • Dementia
  • Anableddau dysgu

Sylwch nad yw'r meini prawf yn gwbl seiliedig ar ddiagnosis o gyflyrau. Mae'n rhaid i chi fod ag anghenion diogelwch (sy'n golygu bod angen goruchwyliaeth arnoch chi) fel y disgrifir uchod.

Tystiolaeth Angenrheidiol o Gymhwysedd

Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno’r dogfennau canlynol i gefnogi eu cais:

  • llythyr gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n cadarnhau'r diagnosis o  amhariad gwybyddol a'r angen am oruchwyliaeth gyson (hanfodol).
  • rhaid i'r llythyr hefyd fanylu ar sut mae'r amhariad yn effeithio ar yr unigolyn ac   yn effeithio ar eu gallu i gyflawni teithiau.

Os nad yw'r dystiolaeth feddygol ofynnol yn ddigonol neu os nad yw ar gael, gellir defnyddio Gwasanaeth Cynghori Annibynnol i asesu ymhellach a phennu cymhwysedd ar gyfer Bathodyn Glas.
 

Ceisiadau dros dro

Mae’r meini prawf dros dro yn berthnasol i bobl sydd ag amhariad symudedd y mae disgwyl i’r amhariad bara am o leiaf 12 mis.

Fel yr ymgeisydd byddwch angen rhoi tystiolaeth bod eich nam yn debyg o bara am o leiaf 12 mis a dylech ddisgrifio yn fanwl sut mae’r cyflwr/triniaeth yn effeithio ar eich gallu i gerdded.  

Mae’r meini prawf cymhwyso ar gyfer Bathodyn Glas dros dro yn defnyddio’r un mesur symudedd a ddefnyddir ar gyfer meini prawf cymhwyso parhaol, felly mae’n rhaid i’r dystiolaeth ddangos eich anawsterau symud yn glir.  

Bydd angen i’r llythyr yma fod gan un o’r canlynol:

  • Timau ail alluogi ysbyty sydd yn rhan o ofal iechyd y claf
  • Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol sydd yn cynorthwyo ag adsefydlu cleifion
  • Gweithwyr iechyd proffesiynol sydd yn darparu gwasanaethau arbenigol, er enghraifft, ymgynghorydd ysbyty (gellir talu am y rhain yn breifat)

Ni fydd llythyr gan eich meddyg teulu yn dderbyniol. 

Os nad yw’r dystiolaeth feddygol yr ydych chi’n ei ddarparu yn ddigonol, yna gallwn ddefnyddio gwasanaeth Cynghori Annibynnol i gynnal asesiad pellach a phenderfynu ar eich cymhwysedd ar gyfer Bathodyn Glas.

Canllawiau cyffredinol

Os ydych chi angen cefnogaeth i gwblhau eich cais ar-lein

Gall teulu neu ffrindiau gyflwyno cais ar-lein ar eich rhan os na allant eich helpu yn bersonol. 

Os nad oes gennych gefnogaeth perthynas neu ffrind, gallwch gysylltu â'r rhif trafnidiaeth gyhoeddedig (dewch o hyd i fanylion cysylltu ar ein tudalen gyswllt).

Os ydych chi’n derbyn Lwfans Byw i'r Anabl neu Daliadau Annibyniaeth Bersonol

Os ydych chi’n derbyn un o’r budd-daliadau yma mae’n bosibl y bydd modd i ni gadarnhau eich cymhwysedd heb i chi orfod darparu llythyr dyfarniad. Mae’n rhaid i chi gynnwys Rhif Yswiriant Gwladol yn y cais er mwyn i ni ei wirio. 

Efallai na fydd modd i ni wirio eich cymhwysedd fel hyn mewn rhai achosion. Os bydd hynny’n digwydd, byddwn yn cysylltu â chi i ofyn i chi ddarparu eich llythyrau llawn.

Os ydych chi’n gwneud cais am lythyr dyfarnu ar gyfer Taliadau Annibyniaeth Personol gofynnwch am y llythyr llawn sy’n cynnwys y pwyntiau a ddyfarnwyd i chi.

Llwytho ac atodi dogfennau i’ch cais

Dilynwch ein canllaw cam wrth gam os nad ydych chi’n sicr sut i lwytho dogfennau fel tystiolaeth yn eich cais.

Fel arall, gallwch sgipio’r cam yma pan fyddwch chi’n llenwi’r cais ar-lein drwy ddewis ‘parhau heb lwytho’. Yna byddai angen i chi e-bostio’r dogfennau yma ar wahân i contact-us@wrexham.gov.uk, neu postiwch nhw i Galw Wrecsam, Llyfrgell Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1AU, (serch hynny, rydym yn eich cynghori i beidio ag anfon dogfennau gwreiddiol). 

Amser prosesu ceisiadau

Pan fyddwch chi’n cyflwyno ffurflen gais am Fathodyn Glas gall gymryd 12 wythnos neu’n hirach i asesu eich cais, ac efallai y cewch chi’ch gwahodd i fynychu asesiad symudedd yng Ngalw Wrecsam, Llyfrgell Wrecsam.

Fe fyddwn ni’n cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth yw’r camau nesaf.  Fe geisiwn ni wneud hyn o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich cais. 

Gan fod ceisiadau yn cael eu hadolygu fesul achos gall yr amser prosesu amrywio.

Os ydy’ch bathodyn wedi’i golli, ei ddwyn neu ei ddifrodi

Os ydy’ch bathodyn wedi’i golli, ei ddwyn neu ei ddifrodi, ac os nad oes gennych chi rif trosedd yr heddlu, bydd rhaid talu £10 am fathodyn newydd.

Os ydych yn newid cyfeiriad

Os ydym ni wedi rhoi bathodyn i chi a’ch bod yn symud i awdurdod lleol newydd eich cyfrifoldeb chi (fel deiliad bathodyn) yw rhoi gwybod i ni eich bod wedi newid cyfeiriad. Gallwn newid manylion y cyfeiriad a rhoi gwybod i’r awdurdod lleol newydd. Ni fyddwch angen bathodyn newydd.

Os bydd deliad y bathodyn yn marw

Os bydd rhywun sydd â bathodyn glas yn marw, dylid dychwelyd eu bathodyn i Galw Wrecsam, Llyfrgell Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1AU.

Bathodynnau sydd wedi dod i ben

Mae’n rhaid i chi ailymgeisio am Fathodyn Glas cyn i’ch bathodyn presennol ddod i ben. Gallwch ymgeisio i adnewyddu eich bathodyn 12 wythnos cyn i’ch hen fathodyn ddod i ben.

Yn ôl y rheoliadau, mae angen dychwelyd bathodynnau sydd wedi dod i ben yn syth, at ddibenion gorfodi. Os byddwch chi’n parhau i ddefnyddio bathodyn sydd wedi dod i ben, rydych chi’n cyflawni trosedd ac fe allech chi gael dirwy o hyd at £1000.

Gellir dychwelyd bathodynnau sydd wedi dod i ben i Galw Wrecsam, Llyfrgell Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1AU.

Gwneud cais am Fathodyn Glas ar-lein