Mae gwasanaeth Shopmobility yn Wrecsam yn cael ei redeg gan CMGW (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam). Mae cadeiriau olwyn, cadeiriau olwyn trydan a sgwteri ar gael i’w defnyddio gan unrhyw un sy’n cael anhawster symud.

Mae’r peiriannau trydan wedi’u llunio i’w defnyddio ar balmentydd, maent yn teithio ar gyflymder cerdded ac maent yn hawdd i'w gyrru. Os nad ydych erioed wedi defnyddio cadeiriau olwyn trydan neu sgwteri o’r blaen, gallwn eich sicrhau bod y rhai a ddarperir gan Shopmobility Wrecsam yn hawdd i’w defnyddio. Gallwn ddarparu hyfforddiant os ydych yn anghyfarwydd â’r math yma o offer.

Llogi cyfarpar

I logi cyfarpar mae’n rhaid i chi fod yn aelod o Shopmobility. Rhaid gwneud cais am aelodaeth yn bersonol yn Shopmobility (yng ngorsaf bysiau Wrecsam). Bydd angen i chi ddarparu dau fath o brawf adnabod wrth wneud cais am aelodaeth – ac mae’n rhaid i un o’r rheiny gynnwys eich cyfeiriad presennol.

Gallwch logi sgwteri a chadeiriau olwyn safonol am y dydd i’w defnyddio o gwmpas canol Dinas Wrecsam ar sail y cyntaf i’r felin.

Dylech archebu sgwteri sy’n ffitio ym mŵt y car, ac sy’n gallu cael eu cludo y tu allan i ganol Dinas Wrecsam, o flaen llaw er mwyn sicrhau eu bod ar gael.Bydd angen i chi archebu'r rhain yn bersonol a bydd angen blaendal o 50% os ydych yn eu llogi am fwy nag un diwrnod.

Manylion cyswllt

Shopmobility, Gorsaf Fysiau Wrecsam, Stryt Y Brenin

E-bost: shopmobility@avow.org

Ffôn: 01978 312390

Prisiau

Sgwteri a chadeiriau olwyn safonol: £3.50 y dydd.

‘Sgwteri bŵt' (sgwteri llai sy’n ffitio ym mŵt y car): £5 y dydd.

Mae sgwteri bŵt hefyd ar gael i’w llogi am gyfnodau hirach.