Gall yr heddlu gyflwyno Rhybuddion Cosb Benodedig gan i yrwyr os yw eu cerbyd yn rhwystro’r strydoedd. Delir â holl droseddau parcio, llwytho ac aros eraill gan ein (Cyngor Wrecsam) swyddogion gorfodi.
Osgowch ddirwy
Os fyddwch yn parcio yn y lle anghywir neu ddim yn talu’r swm cywir am yr amser, rydych yn agored i dderbyn dirwy parcio.
Ni chaniateir i chi barcio:
- lle mae cyfyngiadau ar aros a llwytho mewn grym ar yr adeg
- mewn bae sydd wedi’i gadw (er enghraifft ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas) heb arddangos trwydded ddilys yn gywir
- mewn safle bws, neu mewn lôn fysiau yn ystod amseroedd gwaharddedig
- ar linellau igam-ogam tu allan i ysgolion neu ger croesfannau i gerddwyr – nid yw casglu neu ollwng plant yn esgus, a gall eich cerbyd achosi perygl difrifol i ddiogelwch
- ar balmentydd neu leiniau glas
- mewn gofod talu ac arddangos heb dalu drwy gydol eich arhosiad
- yn hirach nac unrhyw gyfyngiadau aros (ac ni ddylech ddychwelyd o fewn y cyfyngiad amser a nodir)
Os nad ydych yn sicr, gwiriwch yr arwyddion a marciau ffordd lle rydych yn ystyried parcio. Nid yw arwyddion yn ofynnol ar gyfer llinellau melyn dwbl, sy’n golygu na chaniateir aros ar unrhyw adeg.
GOV.UK: adnabod eich arwyddion traffig (dolen gyswllt allanol) - gwybodaeth ar arwyddion rheoli parcio a marciau ffordd y gallwch ddod ar eu traws.
Dirwyon parcio - rhybudd talu cosb
Mae ein swyddogion gorfodi yn patrolio strydoedd o fewn y fwrdeistref sirol a meysydd parcio yng nghanol y ddinas sy'n eiddo i'r cyngor. Bydd swyddogion gorfodi yn cyflwyno rhybudd talu cosb os ydych yn torri unrhyw reoliadau parcio sydd mewn grym ar yr adeg (ar gyfer troseddau ar, ac oddi ar y stryd).
Os ydych yn derbyn rhybudd talu cosb mae gennych fis i dalu’r ffi a nodir ar y rhybudd (neu wneud her ffurfiol yn lle). Os ydych yn talu o fewn 14 diwrnod bydd y ffi yn cael ei ostwng o 50%.
Talu rhybudd tâl cosb
Ar-lein
Gallwch dalu gyda cherdyn credyd/debyd trwy wefan Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (ni dderbynnir American Express).
Ffyrdd eraill i dalu
Fel arall gallwch dalu eich rhybudd tâl cosb:
Taliad hwyr
Os na dderbynnir y taliad o fewn 28 diwrnod, bydd y deiliad cofrestredig neu’r person yr ydym yn credu sy’n berchen y cerbyd, yn derbyn ‘rhybudd i’r perchennog’ yn gofyn am daliad. Bydd y rhybudd hefyd yn disgrifio sut all y perchennog herio’r rhybudd tâl cosb yn ffurfiol (sef ‘sylwadau’).
Os ydych wedi colli eich rhybudd tâl cosb
Nid yw colli eich rhybudd tâl cosb yn rheswm am beidio â thalu. Os ydych wedi colli eich rhybudd tâl cosb, ffoniwch y WPPP (Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru) ar 0345 6056556 i gael cyngor.