Mae swyddog gorfodi yn cyflwyno rhybudd tâl cosb trwy ei osod ar y cerbyd neu ei roi i’r gyrrwr. Mae’n rhoi manylion o’r drosedd parcio honedig yn ysgrifenedig, ac hefyd fe cod dau ddigid.

Eglurhad o’r codau troseddau

Troseddau parcio tâl cosb lefel uwch

Cod Cost Disgrifiad cyfreithiol Gwybodaeth
01 £70 Wedi parcio ar stryd waharddedig yn ystod yr oriau rhagnodedig  Wedi parcio ar linellau melyn (sengl/dwbl) neu mewn parth cerddwyr
02 £70 Wedi parcio neu lwytho/dadlwytho ar stryd waharddedig lle mae cyfyngiadau ar aros a llwytho/dadlwytho mewn grym  Wedi parcio lle mae llinellau melyn a marciau melyn ar y cwrb
12 £70 Wedi parcio mewn gofod parcio preswyl neu a rennir heb arddangos trwydded neu daleb yn glir ar gyfer y gosod hwnnw Wedi parcio mewn parth preswylwyr 
20 £70 Wedi parcio mewn bwlch llwytho wedi’i farcio gyda llinell felyn Llinell felen rhwng dau ofod parcio 
21 £70 Wedi parcio mewn bae/gofod neu ran o fae/gofod sydd wedi’i wahardd dros dro Lle/pan fydd gofod parcio wedi ei wahardd dros dro – bydd arwyddion wedi’u gosod
23 £70 Wedi parcio mewn gofod neu ardal barcio heb ei ddynodi ar gyfer y dosbarth hwnnw o gerbyd Dim ond cerbydau penodol all barcio mewn rhai mannau – fel y manylir ar arwyddion ger y gofod parcio
25 £70 Wedi parcio mewn man llwytho yn ystod oriau gwaharddedig heb lwytho Mae mannau llwytho ar gyfer dibenion llwytho a dadlwytho yn unig
26 £70 Cerbyd wedi’i barcio mwy na 50cm o ochr y lôn gerbydau a ddim o fewn gofod parcio dynodedig  Mae ‘parcio dwbl’ yn gymwys hyd yn oed os nad oes cerbydau eraill, gall hefyd fod yn gymwys os yw cerbyd wedi parcio ar ongl ac os yw un set o olwynion fwy na 50cm o ochr y lôn gerbydau
27 £70 Wedi parcio ger troedffordd wedi’i ostwng Wedi parcio’n rhannol neu’n gyfan gwbl lle mae’n rhwystro cwrb wedi’i ostwng, ar gyfer cerbydau neu gerddwyr
40 £70 Wedi parcio mewn gofod parcio anabl dynodedig heb arddangos bathodyn anabl dilys yn glir Baeau ar gyfer deiliaid bathodyn anabledd yn benodol
45 £70 Wedi parcio mewn man tacsis Baeau a ddefnyddir yn benodol ar gyfer tacsis.  Ni all cerbydau eraill barcio yn y mannau hyn hyd yn oed er mwyn danfon
46 £70 Wedi stopio mewn man gwaharddedig (ar glirffordd) Mae clirffordd yn gyfyngiad hen farciau dim ond arwyddion
47 £70 Wedi stopio mewn safle bws gwaharddedig Gall fysiau heb ganiatâd/cerbydau eraill ond ollwng neu godi teithwyr, ni chânt aros
48 £70 Wedi stopio mewn ardal dan gyfyngiadau tu allan i ysgol Marc melyn igam-ogam tu allan neu ger mynedfa ysgol
49 £70 Wedi parcio yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar drac neu lôn feics  
55 £70 Cerbyd masnachol wedi parcio mewn stryd waharddedig yn erbyn gwaharddiad aros dros nos   
61 £70 Cerbyd masnachol trwm wedi parcio’n gyfan gwbl neu’n rhannol ar droedffordd, llain ymyl ffordd neu dir rhwng dwy lôn gerbydau  Ni ddylai unrhyw ran o gerbyd masnachol trwm fod ar droedffordd, llain ymyl ffordd neu dir rhwng dwy lôn gerbydau 
62 £70 Wedi parcio gydag un neu fwy o olwynion ar unrhyw ran o ffordd drefol oni bai am lôn gerbydau (parcio  ar droedffordd) Ni ddylai unrhyw ran o gerbyd fod ar y droedffordd (oni bai bod arwyddion/marciau yn datgan yn wahanol)
81 £70 Wedi parcio mewn ardal dan gyfyngiadau mewn maes parcio Heb barcio o fewn bae rhagnodedig
85 £70 Wedi parcio mewn bae trwyddedig heb arddangos trwydded ddilys yn glir  Wedi parcio mewn bae trwyddedig o fewn maes parcio heb arddangos trwydded ddilys ar gyfer y lleoliad/cerbyd hwnnw 
87 £70 Wedi parcio mewn gofod parcio anabl heb arddangos bathodyn anabl dilys yn glir Baeau penodol ar gyfer deiliaid bathodyn anabledd dim ond o fewn maes parcio
91 £70 Wedi parcio mewn gofod neu ardal barcio heb ei ddynodi ar gyfer y dosbarth hwnnw o gerbyd Er enghraifft, parcio mewn ardal ddynodedig ar gyfer coetsys/bysiau yn unig
99 £70 Wedi stopio ar groesfan i gerddwyr a/neu ardal groesi wedi’i farcio gyda llinellau igam-ogam Croesfan i gerddwyr wedi’i farcio gyda marciau igam-ogam gwyn
Troseddau parcio tâl cosb lefel isel
Cod Cost Disgrifiad cyfreithiol Gwybodaeth
05 £50 Wedi parcio ar ôl i’r amser a dalwyd amdano ddod i ben Ni ddylai cerbydau barcio ar ôl i’r tocyn/taleb talu ac arddangos ddod i ben
06 £50 Wedi parcio heb arddangos tocyn neu daleb talu ac arddangos dilys yn glir  Dylai tocynnau/talebau talu ac arddangos gael eu harddangos yn glir
07 £50 Wedi parcio gyda thaliad i ymestyn y cyfnod aros tu hwnt i’r amser dechreuol Ni ellir prynu amser ychwanegol i ymestyn y tocyn talu ac arddangos a brynwyd eisoes neu’r talebau sydd wedi’u harddangos eisoes
09 £50 Wedi parcio gan arddangos nifer o docynnau talu ac arddangos sydd wedi’i wahardd Mwy nac un tocyn talu ac arddangos wedi’i arddangos
19 £50 Wedi parcio mewn gofod parcio preswyl neu a rennir gan arddangos trwydded neu daleb annilys Trwydded wedi dod i ben neu’n annilys ar gyfer y parth hwnnw
22 £50 Wedi ail-barcio yn yr un man parcio o fewn 2 awr o adael (neu amser penodol arall) Dim dychwelyd i’r un gofod parcio o fewn cyfnod penodol (gweler yr arwydd sydd wedi’i osod)
24 £50 Heb barcio yn gywir o fewn marciau’r bae neu ofod Rhaid i’r holl olwynion fod o fewn y gofod parcio
30 £50 Wedi parcio yn hirach na’r amser a ganiateir  ‘Baeau aros cyfyngedig’ – mae hyd yr arhosiad wedi’i ragnodi gydag arwyddion
82 £50 Wedi parcio ar ôl i’r amser a dalwyd amdano ddod i ben Mewn maes parcio rhaid i gerbyd symud cyn i’r tocyn talu ac arddangos ddod i ben
83 £50 Wedi parcio mewn maes parcio heb arddangos tocyn talu ac arddangos dilys yn glir Dylai tocynnau talu ac arddangos gael eu harddangos yn glir
86 £50 Wedi parcio tu hwnt i farciau’r bae Rhaid i’r holl olwynion fod o fewn marciau’r bae