• Biliau nwy a thrydan sy’n codi yw dau o’r pwysau mwyaf sy’n wynebu teuluoedd ar hyn o bryd.

Gallai defnyddio llai o ynni eich helpu i gadw eich biliau i lawr ac arbed arian.

Mae ffyrdd eraill y gallwch leihau eich biliau tŷ hefyd. Er enghraifft, drwy wneud yn siŵr eich bod yn cael y fargen orau ar eich band eang neu gael cymorth gyda’ch costau gofal plant.

Tanwydd

Gofal plant

Bwyd

Dillad

Cael y fargen orau ar eich band eang

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, mae llawer o ddarparwyr band eang yn cynnig pecynnau arbennig â gostyngiad - a elwir weithiau’n ‘tariff arbennig’.

Gall y pecynnau hyn helpu teuluoedd i wneud arbedion hanfodol ar adeg pan mae llawer ohonom yn teimlo’r wasgfa.

Cysylltwch â’ch darparwr band eang i weld beth allant ei gynnig.

Cyngor ar ddyled

Help arall

Bwletinau e-bost

Cofrestrwch i gael newyddion gan y Cyngor a chyngor a chefnogaeth costau byw.

Dechreuwch rŵan