Beth yw Tystysgrif Perfformiad Ynni?

Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni yn ddogfen sy’n cynnwys gwybodaeth am eiddo a pha mor effeithlon y mae’n defnyddio ynni.

Mae’n darparu gwybodaeth allweddol, yn cynnwys: 

  • Effeithlonrwydd ynni yr eiddo ar raddfa o A i G (A yw’r mwyaf effeithlon a G yw’r lleiaf effeithlon) 
  • Effaith amgylcheddol yr eiddo 

Mae’r holl Dystysgrifau Perfformiad Ynni ar dai presennol yn cael eu llunio gan ddefnyddio’r un broses. Mae hyn yn golygu y gellir cymharu effeithlonrwydd ynni eiddo gwahanol yn deg.

Tystysgrifau Perfformiad Ynni a rhentu’n breifat 

Pan fo landlord preifat eisiau rhoi eiddo ar osod, mae’n rhaid iddo gomisiynu Tystysgrif Perfformiad Ynni cyn y gellir marchnata adeilad i’w rentu. Mae’n rhaid i landlord ddarparu Tystysgrif Perfformiad Ynni i unrhyw ddarpar denantiaid y tro cyntaf y caiff yr eiddo ei osod a dylai unrhyw denantiaid y dyfodol gael copi.

Pryd bynnag y caiff y Dystysgrif Perfformiad Ynni ei darparu, rhaid ei darparu’n rhad ac am ddim bob amser.

Mae’r Dystysgrif Perfformiad Ynni’n ddilys am 10 mlynedd (oni bai bod tystysgrif ddilys newydd yn cael ei chomisiynu o fewn y cyfnod hwn). Gall landlord ddewis comisiynu Tystysgrif Perfformiad Ynni newydd os oes newidiadau sylweddol wedi cael eu gwneud i eiddo a fyddai’n effeithio ar y dystysgrif bresennol.

Os ydych am rentu eiddo yn breifat, gallai gwirio’r Dystysgrif Perfformiad Ynni roi syniad i chi o gost y biliau ynni (er bydd y gost wirioneddol yn dibynnu ar eich defnydd o ynni).

Mae’r mathau canlynol o lety rhent yn eithriad ac nid oes arnynt angen Tystysgrif Perfformiad Ynni:

  • fflatiau un ystafell neu ystafelloedd lle mae cegin, toiled a / neu ystafell ymolchi a rennir (er enghraifft eiddo lle mae gan bob ystafell ei chytundeb tenantiaeth ei hun)
  • ystafell mewn neuadd breswyl neu hostel

Rheoliadau sgôr effeithlonrwydd ynni

Mae rheoliadau mewn lle i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yn y sector rhentu preifat – rheoliadau’r Lleiafswm Safonau Effeithlonrwydd Ynni.

Beth mae’r rheoliadau yn ei olygu?

Os ydych yn rhentu eiddo sydd â band ‘F’ neu ‘G’ ar y Dystysgrif Perfformiad Ynni, mae fel arfer yn ofynnol i’ch landlord wneud gwelliannau.

Dylai pob eiddo fod â sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni o ‘E’ o leiaf, oni bai bod yr eiddo wedi’i gofrestru fel eithriad. Mae eithriad yn para am 5 mlynedd ac wedi’r cyfnod hwn bydd yn rhaid i’r landlord ailasesu ei ddewisiadau ac ail-gofrestru fel eithriad os yn berthnasol.

Efallai bod eich landlord yn torri’r gyfraith os yw’n gosod eiddo i chi sydd â band Tystysgrif Perfformiad Ynni o ‘F’ neu ‘G’. 

Eiddo eithriedig

Ni fydd yn rhaid i landlordiaid preifat wneud gwelliannau os ydynt wedi cofrestru’r eiddo fel eiddo eithriedig (bydd yn rhaid iddynt ailymgeisio am yr eithriad bob pum mlynedd). 

Gallwch wirio os yw eich cartref yn eiddo eithriedig ar GOV.UK (dolen gyswllt allanol).

Beth allwch chi ei wneud fel tenant

Fel tenant efallai y gallech helpu’ch landlord trwy arbed ynni yn yr eiddo. Gallwch wneud hynny trwy wneud cais am grant arbed ynni, os ydych yn gymwys.

Gallech hefyd wirio a yw’ch landlord wedi gwneud cais am unrhyw grantiau i’w helpu i wneud gwelliannau. 

Mantais gwneud eiddo yn fwy effeithlon o ran ynni yw y bydd yn gostwng eich biliau tanwydd.

Mae ein tudalen gwella cartrefi ac eiddo yn rhestru cynlluniau grant y gallech chi neu’ch landlord o bosibl wneud cais amdanynt.