Cymorth Gwelliant Cartref ac Eiddo 

Os ydych yn ystyried gwella safon eich cartref neu eiddo yr ydych yn berchen arni, efallai y gallwch gael cyngor neu gymorth ariannol i’ch helpu i wneud hyn.

Benthyciadau gwelliannau i gartref/eiddo

Addasiadau Tai 

Cyllid Cartrefi Cynnes ar gyfer gwres canolog

Mae Rhentu Doeth Cymru wedi llwyddo i gael cyllid Cartrefi Cynnes i roi help llaw i landlordiaid a thenantiaid osod gwres canolog mewn eiddo rhent (boeler nwy, rheiddiaduron a'r gwaith cysylltiedig). Mae’r cyllid yn rhan o’r trefniant ariannu  Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO 3): Cynllun Helpu i Wresogi – cymhwyster hyblyg - menter effeithlonrwydd ynni wedi’i dylunio i leihau allyriadau ynni ar yr un pryd a mynd i’r afael â thlodi tanwydd.

Ydw i’n gymwys?

Am ragor o wybodaeth am gymhwyster a sut i wneud cais ewch i wefan Rhentu Doeth Cymru (dolen gyswllt allanol).

Grantiau gwella adeiladu eraill sydd ar gael