Yn amodol ar gymhwysedd, efallai y bydd benthyciadau di-log ar gael i gefnogi gwelliannau cartref. 

Mae'r benthyciadau hyn wedi'u datblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac fe'u hariannir drwy'r cynlluniau 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid' neu 'Gwella Tai'.

Bydd benthyciadau yn cael eu gwarantu yn erbyn yr eiddo yn y gofrestrfa tir, ar ffurf tâl gyfreithiol - ni allwn ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gymryd llai nag ail arwystl, fel arfer ar gefn y benthyciwr morgais presennol.

Cymhwysedd

  • Rhaid i'r eiddo fod wedi ei leoli yn Sir Wrecsam sy’n talu Treth Gyngor i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
  • Gall perchennog/perchnogion cyfreithiol fod y landlord/landlordiaid neu’n berchennog/feddiannydd/feddianwyr yr eiddo, a rhaid i'r teitl fod wedi ei gofrestru'n llawn yn y Gofrestrfa Tir.
  • Y gymhareb benthyciad i werth uchaf yw 80% (mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw fenthyca presennol sydd wedi'i warantu yn erbyn yr eiddo ar ffurf morgais neu fenthyciad, ynghyd â benthyciad newydd drwy'r cynllun hwn, fod yn fwy nag 80% o werth marchnad cyfredol yr eiddo).
  • Ac eithrio atgyweiriadau adeileddol, rhaid i'r gwaith arfaethedig gysylltu'n uniongyrchol â gwelliant perfformiad ynni.
  • Mewn achosion o angen brys, efallai y bydd swm benthyciad mwy ar gael (wrth ddangos tystiolaeth o angen brys, rhaid i'r gwaith gysylltu ag iechyd a diogelwch deiliaid yr eiddo, mynd i'r afael â pherygl, neu gadernid adeileddol yr adeilad).
  • Rhaid i unrhyw ganiatâd cynllunio angenrheidiol, hysbysiadau rheoleiddio adeiladu neu ganiatâd cadwraeth fod ar waith a darparu tystiolaeth ysgrifenedig fel rhan o'r broses ymgeisio am fenthyciad.

Ni fydd ceisiadau am fenthyciadau gan unrhyw ymgeisydd/ymgeiswyr y mae arnynt ddyled i ni (megis, ond heb fod yn gyfyngedig i: Hysbysiadau Tâl Cosb, ôl-ddyledion y Dreth Gyngor neu ôl-ddyledion rhent) yn cael eu hystyried.

Ffioedd a chyfraddau llog

  • Mae’r benthyciadau yn ddi-log, ar yr amod eu bod yn cael eu had-dalu'n llawn o fewn y cyfnod ad-dalu’r benthyciad y cytunwyd arno.
  • Mae benthyciadau yn ddarostyngedig i ffi drefnu.  Mae'r ffi yn cael ei phennu gan y swm y mae ymgeisydd yn dymuno cael ei fenthyg. Gallwn ddarparu dyfynbris ffioedd ar ôl i chi gyflwyno ffurflen datganiad o ddiddordeb.
  • Ni ellir ad-dalu £100 cyntaf ffi'r benthyciad
  • Mae'r balans ffioedd yn daladwy ar ôl cymeradwyo'r benthyciad a chyn i unrhyw gytundebau cyfreithiol gael eu llunio.
  • Rhaid talu anfonebau ffioedd ar unwaith ar ôl eu derbyn; gall methu â thalu arwain at wrthod cais am fenthyciad neu dynnu cynnig am fenthyciad yn ôl.

Sut gallaf wneud cais?

Rhaid i ddarpar ymgeiswyr ofyn yn gyntaf i fynegi diddordeb yn ffurfiol yn y cynllun – yn amodol ar wiriadau cymhwysedd cychwynnol, byddech wedyn yn cael eich gwahodd i gyflwyno cais llawn.

Datganiadau o Ddiddordeb  

E-bostiwch loans@wrexham.gov.uk i ofyn am ffurflen datganiad o ddiddordeb.

Yn ystod cyfnodau o ddiddordeb mawr, rydym yn cadw'r hawl i oedi'r cynllun benthyciadau i ddatganiadau newydd o ddiddordeb tra bod swyddogion yn ymdrin â'r ceisiadau sydd eisoes yn y system.  Bydd unrhyw ddiddordeb newydd pan fydd y cynllun wedi’i oedi yn cael ei gofnodi ar restr aros, ac yn cael ei drin yn nhrefn y dyddiad pan fydd y cynllun yn ailagor.

Ceisiadau llawn

Dim ond ar ôl i ddatganiad o ddiddordeb gael ei gymeradwyo y byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno cais llawn.

Bydd angen darparu dogfennau ategol ar gyfer cais llawn, gan gynnwys heb gyfyngiad: dulliau adnabod, prawf o gyfeiriad, cyfriflenni banc, datganiad morgais, prawf o yswiriant adeilad, dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith arfaethedig.

Os na ellir gwireddu'r gost o ddychwelyd eiddo i ddefnydd preswyl drwy gyllid benthyciad gwella i gartref yn unig, bydd angen tystiolaeth o arian ar gyfer balans cost y gwaith fel rhan o'r broses ymgeisio.

Ad-dalu benthyciadau

Mae benthyciadau yn ad-daladwy drwy Ddebyd Uniongyrchol misol ar y cyntaf o bob mis. Mae'r holl fenthyciadau yn ad-daladwy erbyn 1 Mawrth, 2030.

Cymorth ychwanegol roi defnydd newydd i'ch eiddo gwag

Yn amodol ar gymhwysedd, gellir defnyddio'r benthyciad ochr yn ochr â mathau eraill o gyllid a / neu gymorth.

Mae’r Cynllun Houseproud ar gael i wneud yn siŵr bod unrhyw waith i eiddo yn cael ei wneud yn ddiogel ac yn broffesiynol.  Mae wedi'i gynllunio i helpu perchnogion eiddo sy'n gallu cefnogi cost gwaith drwy eu cyllid eu hunain, neu drwy fenthyciad.  Codir tâl bach am ddefnyddio'r cynllun hwn.