Bwriad y benthyciad hwn yw helpu perchnogion eiddo masnachol o fewn Canol Tref Wrecsam i gyflawni gwelliannau i’w heiddo. Gellir defnyddio'r benthyciad ar y cyd â benthyciadau eraill os yw'r eiddo yn gymysgedd o rai masnachol a phreswyl.

Mae'r benthyciad wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac yn cael eu hariannu drwy'r cynlluniau 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’ a 'Throi Tai'n Gartrefi’.

Cymhwysedd

Mae’r benthyciad hwn ar gael ar gyfer eiddo o fewn Canol Tref Wrecsam yn unig.
Mae benthyciadau di-log o hyd at £25,000 ar gael i wella eiddo sy'n eiddo i berchen-feddianwyr neu sy’n cael eu gosod yn breifat neu’n perchen-feddianwyr. Os ydych yn berchennog eiddo gwag a’ch bod yn dymuno meddiannu'r eiddo eich hunain, rydych chi hefyd yn gymwys i wneud cais.

Efallai y bydd eiddo sydd wedi eu trawsnewid yn nifer o unedau hunangynhwysol yn gymwys i gael benthyciadau fesul uned (hyd at 10 uned yr ymgeisydd yng Nghanol Tref Wrecsam).

Ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau, mae'n rhaid i’r eiddo gael ei rhentu, ei werthu, neu ei feddiannu gennych chi eich hunain.

Sut mae’r benthyciad yn gweithio?

Mae’r benthyciad yn fenthyciad diogel gyda ffi ar yr eiddo am hyd fywyd y benthyciad. Bydd ffi cyntaf neu ail ffi ei angen gyda chyfanswm y benthyciadau sydd ddim yn mynd dros 80% o’r benthyciad uchel (LTV). Fel arfer, bydd y pridiant yn cael ei osod ar yr eiddo sy’n cael ei wella; fodd bynnag, efallai y bydd y pridiant yn cael ei warantu yn erbyn eiddo arall.

Ffioedd

Mae benthyciadau yn destun ffi cais hyd at £595, a mae ffioedd Cofrestrfa Tir a Thŷ Cwmnïau yn berthnasol (nid oes llog pellach yn cael ei roi ar y benthyciad ei hun). Bydd cadarnhad o’r ffioedd yn cael eu darparu ar adeg y cais. Mae hyn yn cynnwys holl gostau’r Cyngor wrth ddarparu'r benthyciad, gan gynnwys y Ffioedd Cyfreithiol a Ffioedd Prisio (os oes angen). Nid oes unrhyw ffi am ad-dalu’r ffioedd yn gynnar.

Cymorth Ychwanegol

Os ydych eisiau dod o hyd i gontractwr i wneud y gwaith, yna gallwn eich helpu gyda'n cynllun Houseproud (mae ffi fechan am ddefnyddio’r cynllun hwn).

Pa mor fuan y mae'n rhaid ad-dalu’r benthyciad?

Mae’r benthyciadau yn ad-daladwy dros gyfnod o 5 mlynedd os yw'r eiddo yn cael ei osod ac hyd at saith mlynedd os yw'r eiddo yn eiddo i berchen-feddiannwr.

Sut allaf i wneud cais?

Gallwch wneud cais drwy anfon e-bost at loans@wrexham.gov.uk.