Yn amodol ar gymhwysedd, efallai y bydd benthyciadau di-log ar gael i gefnogi dychwelyd eiddo gwag i ddefnydd preswyl.
Mae'r benthyciadau hyn wedi'u datblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac fe'u hariannir drwy'r cynlluniau 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid' neu 'Troi Tai’n Gartrefi'.
Ad-dalu benthyciadau
Cymorth ychwanegol roi defnydd newydd i'ch eiddo gwag
Yn amodol ar gymhwysedd, gellir defnyddio'r benthyciad ochr yn ochr â mathau eraill o gyllid a / neu gymorth.
Mae’r Cynllun Houseproud ar gael i wneud yn siŵr bod unrhyw waith i eiddo yn cael ei wneud yn ddiogel ac yn broffesiynol. Mae wedi'i gynllunio i helpu perchnogion eiddo sy'n gallu cefnogi cost gwaith drwy eu cyllid eu hunain, neu drwy fenthyciad. Codir tâl bach am ddefnyddio'r cynllun hwn.
Prydlesu eich eiddo gwag i ni – os ydych chi'n berchen ar eiddo gwag, efallai y byddwch yn gallu ei brydlesu gyda chymorth drwy ein Cynllun Prydlesu Sector Preifat. Gallai grantiau fod ar gael i wella eiddo i safon y cytunwyd arni a chynyddu'r sgôr TPY.