Mae ceisiadau am y grant hwn wedi cau. Gellir agor y grant i geisiadau eto os oes unrhyw gyllid yn dod are gael i’w hailddyrannu.

Grant yw hwn ar gyfer adnewyddu ac ailddatblygu eiddo manwerthu a masnachol.

Nod y grant yw helpu tuag at adfywio canol dinas Wrecsam i gefnogi economi'r ardal.

Mae’r grantiau hyn wedi cael eu datblygu a’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Cymhwysedd

Mae grantiau o hyd at £50,000 ar gael i helpu gyda gwelliannau cyfalaf allanol i eiddo manwerthu a masnachol yng nghanol dinas Wrecsam.

Mae'r grant hwn ar gyfer adeiladau manwerthu a masnachol yng nghanol dinas Wrecsam yn unig. Nid yw ar gael ar hyn o bryd ar gyfer adeiladau mewn mannau eraill yn y fwrdeistref sirol.

Mae'n grant ôl-weithredol sy'n golygu y byddai'n cael ei ddarparu ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau (felly byddai’n rhaid bod gennych y modd ariannol i dalu am y gwaith i ddechrau).  

Gellir defnyddio grantiau tuag at waith allanol i flaen yr adeilad, gan gynnwys: 

  • blaen siopau
  • gwella ffenestri arddangos 
  • gwella arwyddion
  • ffenestri a drysau
  • toeau a simneiau 
  • rendro
  • gwaith strwythurol  

Byddai gwaith mewnol ond yn gymwys i gael yr arian fel rhan o becyn cynhwysol neu welliannau allanol.   

Bydd unrhyw waith i wella effeithlonrwydd ynni'r adeilad (er enghraifft, inswleiddio gwell) hefyd yn gymwys - fel rhan o becyn gwaith gwella cyfalaf allanol.

Pwy all wneud cais?

Gallwch wneud cais os ydych yn berchennog eiddo manwerthu neu fasnachol. 

Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn lesddeiliad eiddo manwerthu neu fasnachol gydag o leiaf 7 mlynedd ar ôl ar y brydles ar ddyddiad y cais, a bod gennych ganiatâd ysgrifenedig eich landlord i’r gwaith arfaethedig.

Sut mae’r grant yn gweithio? 

Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu fesul achos a’u hystyried o ran: 

  • cymhwysedd
  • gwerth am arian yn seiliedig ar allbynnau / canlyniadau i’w cyflawni ac yn unol â nodau ac amcanion y cynllun

Telir grantiau llwyddiannus ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau a'ch bod wedi darparu dogfennau ategol (gan gynnwys anfonebau neu dderbynebau). 

Rhaid cwblhau prosiectau llwyddiannus erbyn 28 Chwefror, 2024 fan bellaf.