Mae sawl math o gymorth ariannol ar gael i’ch helpu chi i dalu am ofal plant cofrestredig, a bydd y cynllun gorau i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Credyd Cynhwysol

Credyd Cynhwysol yw’r taliad misol sengl newydd ar gyfer pobl sydd ar incwm isel neu’n ddi-waith. Mae Credyd Cynhwysol yn disodli Credyd Treth Plant, Budd-Dal Tai, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cymorth Cyflogaeth yn Seiliedig ar Incwm a Chredyd Treth Gwaith.

Bydd hawlwyr newydd o Wrecsam yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau eraill ar hyn o bryd, caiff y rhain eu disodli gan Gredyd Cynhwysol yn y blynyddoedd nesaf, ond mae'n bosibl y cewch eich trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol yn gynt os byddwch yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.

Gallwch ddefnyddio gyfrifiannell budd-daliadau'r (dolen gyswllt allanol) i gyfrifo faint y gallwch chi hawlio.

Credydau Treth

Mae Credyd Treth Plant ar gael i deuluoedd gyda phlant, p'un a ydych yn gweithio ai peidio. Mae’r swm y byddwch yn derbyn yn seiliedig ar eich incwm blynyddol ac yn lleihau wrth i'ch incwm gynyddu. Gallwch ddefnyddio’r arian yma i dalu am gostau gofal plant, ond nid yw’n daliad penodol ar gyfer gofal plant.

Mae Credyd Treth Gwaith yn cefnogi pobl sy’n gweithio (cyflogedig a hunangyflogedig) ar incwm isel. Os ydych chi’n sengl, mae’n rhaid i chi fod yn gweithio 16 awr. Os ydych chi’n rhan o gwpl, mae’n rhaid i chi fod yn gweithio 24 awr rhyngoch chi gydag un ohonoch chi’n gweithio o leiaf 16 awr. Mae’r swm y byddwch yn derbyn yn seiliedig ar eich incwm blynyddol ac yn lleihau wrth i'ch incwm gynyddu.

Gallwch ddefnyddio elfen gofal plant Credyd Treth Gwaith ar gyfer costau gofal plant cofrestredig neu gymeradwy os ydych chi’n gymwys. Mae’r swm y byddwch yn derbyn yn dibynnu ar incwm yr aelwyd a’ch costau gofal plant. Efallai y byddwch chi’n well allan yn defnyddio talebau gofal plant os yw’ch incwm yn uchel.

Os ydych chi’n hawlio am y tro cyntaf, mae’n annhebygol y byddwch chi’n gwneud cais am Gredyd Treth, bydd yn rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle.

Gofal Plant Di-dreth

Mae’r cynllun gofal plant di-dreth ar gael i rieni sy’n gweithio (gan gynnwys rhieni hunangyflogedig) a chanddynt blant dan 11 oed (17 oed ar gyfer plant anabl) ac nid yw’n dibynnu ar gyflogwr yn cynnig cynllun. Bydd y llywodraeth yn ychwanegu at y swm rydych chi’n talu i mewn i’ch cyfrif Gofal Plant Di-dreth.

Ni chewch chi ofal plant di-dreth os ydych chi eisoes yn derbyn Credyd Cynhwysol/Credyd Treth neu’n rhan o gynllun talebau gofal plant.

Talebau Gofal Plant

Nid yw'r cynllun talebau gofal plant bellach ar agor i deuluoedd newydd. 

Os ydych chi’n defnyddio talebau gofal plant, gallwch barhau i’w defnyddio hyd nes bydd eich cyflogwr yn rhoi’r gorau i’w cynnig. Mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr o fewn 90 diwrnod os ydych chi'n derbyn Gofal Plant Di-dreth, gan na allwch chi hawlio talebau gofal plant hefyd (ond fe gewch chi barhau i ddefnyddio'r talebau sydd gennych chi, a gwneud taliad yn defnyddio’r talebau a’r cynllun Gofal Plant Di-dreth).

Cyngor

Cyllidebu

Mae gan Helpwr Arian nifer o awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu chi wneud eich arian bara’n hirach yn ogystal â chynllunydd cyllideb i’ch helpu chi reoli eich arian.

Dyledion

Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor a chymorth ymarferol a chyfrinachol ar ddyledion. Gallwch ffonio’r gwasanaeth ffôn cenedlaethol ‘Adviceline’ ar 03444 77 20 20 neu’r gangen yn Wrecsam ar 0300 330 1178.